Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Ymgynghoriad ar Ardoll Ymwelwyr ar agor

Ymgynghoriad ar Ardoll Ymwelwyr ar agor


Summary (optional)
start content

Ymgynghoriad ar Ardoll Ymwelwyr ar agor

Visitor Levy Consultation

Ymgynghoriad ar Ardoll Ymwelwyr

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn gofyn i bobl gyflwyno eu barn am gyflwyno ardoll ar arosiadau dros nos mewn llety i ymwelwyr. 

Dywedodd y Cynghorydd Sharon Doleman, Aelod Cabinet Economi Gynaliadwy a Chyfathrebu: “Rydym yn gwybod bod cryn ddiddordeb yn yr Ardoll Ymwelwyr yng Nghonwy, a dyna pam rydym wedi cyflogi cwmni annibynnol i gynnal ymgynghoriad i fesur y farn leol.”  Bydd yr ymatebion a gawn yn helpu Cynghorwyr i wneud penderfyniad democrataidd deallus am y mater pwysig hwn.”

Mae’r manylion llawn a’r holiadur ar gael ar-lein: Ymgynghoriad arfaethedig ar y dreth ymwelwyr yn Sir Conwy - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Mae sesiynau galw heibio a digwyddiadau yn cael eu trefnu ar gyfer y cyhoedd ac ar gyfer y sector lletygarwch. Cyhoeddir manylion y rhain yn fuan. 

Os nad oes gennych chi fynediad at y rhyngrwyd, gallwch gael copi papur o’r lleoedd canlynol:

  • Canolfan Groeso Conwy, Adeiladau’r Muriau, Rose Hill Street, Conwy LL32 8LD
  • Gwasanaeth Canolfan Groeso Llandudno, Venue Cymru, Y Promenâd, Llandudno, LL30 1BB
  • Canolfan Fusnes Conwy, Lôn y Gyffordd, Cyffordd Llandudno, LL31 9XX
  • Coed Pella, Ffordd Conwy, Bae Colwyn, LL29 7AZ
  • Llyfrgelloedd

Bydd yr ymgynghoriad yn para ychydig mwy nag 8 wythnos. A fyddech cystal â chyflwyno’ch safbwyntiau erbyn 17/07/26.

Bydd canlyniadau'r ymgynghoriad yn cael eu cyflwyno i Gynghorwyr yn ddiweddarach eleni pan fyddant yn trafod a ddylid cyflwyno Ardoll Ymwelwyr yn Sir Conwy.

 

Cefndir

Yn 2024, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Fil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru).  Cymeradwywyd y Bil gan Senedd Cymru ar 8 Gorffennaf 2025 a derbyniodd Gydsyniad Brenhinol ar 18 Medi 2025.

Mae'r Bil yn rhoi'r dewis i awdurdodau lleol gyflwyno ardoll ar arosiadau dros nos mewn llety ymwelwyr. 

Mae cynnal ymgynghoriad yn rhan o'r broses a rhaid ei wneud cyn gofyn i Gynghorwyr benderfynu a ddylid cyflwyno ardoll ai peidio.

Yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor ar 14/05/26, rhoddodd y Cynghorwyr ganiatâd i gynnal ymgynghoriad.

Cwestiynau Cyffredin:

Preswylwyr ac Ymwelwyr: Ardoll Ymwelwyr
Busnes Lletygarwch: Gwybodaeth i Fusnesau am yr Ardoll Ymwelwyr

Wedi ei bostio ar 21/05/2026

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content