Pobl Ifanc yn Meithrin Sgiliau Arwain yn Nigwyddiad Rhwydweithio Cynghorau Ieuenctid Gogledd Cymru

Rhwydweithio Cynghorau Ieuenctid Gogledd Cymru
Daeth tri deg o aelodau Cynghorau Ieuenctid ledled Gogledd Cymru ynghyd ar gyfer pedwerydd cyfarfod Rhwydweithio Cynghorau Ieuenctid Gogledd Cymru yr wythnos yma (26/10/26). Cafodd y digwyddiad ei gynnal gan Gyngor Ieuenctid Conwy yn swyddfeydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yng Nghoed Pella ym Mae Colwyn.
Roedd wedi’i gynllunio’n arbennig ar gyfer aelodau’r Cynghorau Ieuenctid o bob un o chwe awdurdod Gogledd Cymru a chafodd ei gynnal ar y cyd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Drwy gydol y diwrnod, bu’r bobl ifanc yn cymryd rhan mewn gweithgareddau rhyngweithiol, trafodaethau a dysgu ar ffurf ffilmiau, gan edrych ar faterion maen nhw’n angerddol yn eu cylch a thrafod y newidiadau yr hoffent eu gweld yn eu cymunedau nhw a thu hwnt. Gan weithio mewn parau neu grwpiau bach, bu’r bobl ifanc yn ystyried pam mae’r materion hynny’n bwysig iddynt a sut mae modd mynegi eu neges yn effeithiol.
Roedd yr hyfforddiant yn cyflwyno’r bobl ifanc i ‘Public Narrative’, sy’n ddull arweinyddiaeth a dylanwadu a ddatblygwyd ym Mhrifysgol Harvard. Mae’r dechneg yn helpu unigolion i ddefnyddio’u profiadau a’u gwerthoedd eu hunain i adrodd straeon cymhellgar sy’n ysbrydoli eraill, yn meithrin cysylltiadau, ac yn annog gweithredu ar faterion sy’n bwysig iddyn nhw.
Anogwyd y bobl ifanc i fynegi eu syniadau mewn amryw ffyrdd, gan gynnwys darnau ysgrifenedig, byrddau stori, a gwaith celf, a oedd yn caniatáu iddynt ddewis y fformat oedd yn gweddu orau i’w cryfderau a’u diddordebau. Erbyn diwedd y sesiwn, roeddent wedi dechrau datblygu eu ‘naratifau cyhoeddus’ eu hunain, gan greu straeon arwain oedd wedi’u bwriadu i ysbrydoli gweithredu a dylanwadu ar newid.
Roedd yr hyfforddiant hefyd yn cyflwyno technegau hyfforddi ymarferol, a oedd yn helpu’r bobl ifanc i ddysgu sut i gefnogi ac annog ei gilydd fel arweinwyr yn eu cynghorau ieuenctid lleol a’u cymunedau.
Roedd y digwyddiad yn amlygu ymrwymiad cynghorau ieuenctid ar draws Gogledd Cymru i fuddsoddi a datblygu arweinyddiaeth ymysg pobl ifanc, gan sicrhau bod y sgiliau, yr hyder a’r gefnogaeth angenrheidiol ganddynt i fod yn eiriolwyr effeithiol dros y materion sydd bwysicaf i’w cenhedlaeth nhw.
Mae Cynghorau Ieuenctid yn rhoi cyfle i bobl ifanc 11–18 oed drafod materion sy’n effeithio ar eu cymunedau a lleisio eu barn wrth rai sy’n gwneud penderfyniadau mewn llywodraeth leol a chenedlaethol. Gall cynrychiolwyr o Gyngor Ieuenctid Conwy gymryd rhan mewn cyfarfodydd Craffu a bod yn rhan o’r broses ddemocrataidd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
Am fwy o wybodaeth am Gyngor Ieuenctid Conwy, ewch i: Gwasanaeth Ieuenctid, Ymgysylltu a Pherthyn – Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Wedi ei bostio ar 30/10/2026