Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Premiymau Treth y Cyngor


Summary (optional)
start content

Rhoddir rhybudd trwy hyn fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, yn ei gyfarfod ar 23 Hydref 2025, yn unol ag adran 12a a 12b Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, fel y’i cynhwysid gan adran 139 Deddf Tai (Cymru) 2014, wedi penderfynu’r canlynol:

  • i) Cadw’r Premiwm Treth y Cyngor presennol o 150% ar gyfer ail gartrefi ar gyfer blwyddyn ariannol 2026/27 a 2027/28.
  • ii) Cadw’r Premiwm Treth y Cyngor presennol o 200% ar gyfer cartrefi gwag hirdymor ar gyfer blwyddyn ariannol 2026/27 a 2027/28.
  • iii) Cadw’r Premiwm Treth y Cyngor presennol o 300% ar gyfer cartrefi gwag hirdymor sydd wedi bod yn wag ers 5 mlynedd neu fwy ar gyfer blwyddyn ariannol 2026/27 a 2027/28.
  • iv) Parhau i beidio â chynnig unrhyw ostyngiad ar gyfer ail gartrefi a chartrefi gwyliau ac eiddo gwag hirdymor ac eiddo sydd heb eu dodrefnu yn Nosbarthiadau A, B ac C ar gyfer y flwyddyn ariannol 2026/2027.
end content