Cartref Newyddion Hysbysiadau Cyhoeddus Hysbysiadau cyffredinol Datganiad Cyfrifon 2024/25 – Awdurdod Harbwr Conwy
start content

Mae Rheoliad 10(1) o Reoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 (fel y'i diwygiwyd) yn ei gwneud yn ofynnol i Swyddog Ariannol Cyfrifol, Awdurdod Harbwr Conwy lofnodi a dyddio'r datganiad o gyfrifon, ac ardystio ei fod yn cyflwyno darlun cywir a theg o sefyllfa ariannol y corff ar ddiwedd y flwyddyn y mae'n ymwneud â hi ac o incwm a gwariant y corff hwnnw ar gyfer y flwyddyn honno. Mae'r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i hyn gael ei gwblhau erbyn 31 Mai 2025.

Dangosir terfynau amser statudol 2024/25 yn y tabl isod ynghyd â therfynau amser estynedig a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru.

EitemDyddiad Cau Statudol Dyddiad Cau Estynedig 
Datganiad Cyfrifon Drafft  31 Mai 2025 30 Mehefin 2025
Datganiad Cyfrifon Archwiliedig  31 Gorffennaf 2025 31 Hydref 2025


Nid yw’r Swyddog Ariannol Cyfrifol wedi llofnodi ac ardystio’r cyfrifon ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2025 erbyn y dyddiad cau statudol a bydd yn gweithio o fewn y terfynau amser estynedig.

end content