Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Siopau Anifeiliaid Anwes


Summary (optional)
I redeg busnes sy'n gwerthu anifeiliaid anwes rydych angen trwydded gan yr Awdurdod Lleol. Mae hyn yn cynnwys pob gwerthiant masnachol o anifeiliaid anwes, gan gynnwys siopau a busnesau anifeiliaid anwes sy'n gwerthu anifeiliaid dros y rhyngrwyd.
start content

Ffioedd

Mae cais / adnewyddu trwydded siop anifeiliaid anwes yn costio £183 a gellir ei dalu ar-lein drwy ddefnyddio'r ddolen uchod.  Unwaith y rhoddir trwydded, mae'n ddilys am 12 mis a rhaid ei hadnewyddu cyn y dyddiad dod i ben.    

Cymhwyster

Ni ddylai ymgeiswyr fod wedi eu hanghymhwyso rhag:

  • Cadw sefydliad bridio cŵn
  • Cadw siop anifeiliaid anwes
  • Cadw ci
  • Cadw sefydliad anifeiliaid
  • Cadw anifeiliaid

Bydd angen i ymgeisydd am drwydded ystyried a oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer y gweithgaredd trwyddedig arfaethedig. Dylent gysylltu â'r adran gynllunio i drafod a fydd angen caniatâd. Gall yr awdurdod lleol wrthod neu ohirio penderfyniad am gais am drwydded nes y penderfynir ar y mater cynllunio.

Dogfennau Ategol

Dylai'r dogfennau canlynol hefyd gael eu cyflwyno gyda'ch cais:

  • Cynllun safle a chynllun gosodiad
  • Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus

Prosesu ac Amserlenni

Bydd archwiliad yn cael ei wneud gan swyddog awdurdod lleol o fewn 28 diwrnod o dderbyn y cais.  Os nad ydych wedi clywed gennym o fewn y graddfeydd amser hyn, cysylltwch â ni.  

Nid yw caniatâd dealledig yn berthnasol felly mae'n rhaid i'ch cais gael ei brosesu gan yr awdurdod cyn y gellir ei ganiatáu.

Ni all unrhyw un redeg siop anifeiliaid anwes heb gael trwydded yn gyntaf.

Deddfwriaeth ac Amodau

Rhaid i ymgeiswyr a deiliaid trwydded fodloni gofynion Deddf Anifeiliaid Anwes 1951 (legislation.gov.uk) ac amodau cysylltiedig.

Rhaid i Awdurdodau Lleol ystyried y canlynol wrth ystyried cais:

  • y bydd anifeiliaid yn cael eu cadw mewn llety addas, er enghraifft mewn perthynas â thymheredd, maint, golau, awyru a glendid
  • bydd bwyd a diod digonol yn cael eu darparu i'r anifeiliaid a byddant yn cael eu gweld yn rheolaidd
  • na fydd unrhyw anifeiliaid mamalaidd yn cael eu gwerthu’n rhy ifanc
  • bod camau'n cael eu cymryd i atal clefyd rhag lledaenu ymhlith yr anifeiliaid
  • bod y darpariaethau tân ac argyfwng digonol ar gael


Ceisiadau ac Apeliadau sydd wedi methu

Os yw’r drwydded yn cael ei gwrthod, gellir apelio i'r llys ynadon a all roi pa bynnag gyfarwyddiadau ynghylch y drwydded neu ei hamodau.

Rhoi gwybod am broblem

Os oes gennych unrhyw gwynion neu ymholiadau ynghylch siop anifeiliaid anwes, anfonwch e-bost at animal.licensing@conwy.gov.uk

Amodau Trwydded Siop Anifeiliaid Anwes

Gwefan Ffederasiwn Diwydiant Anifeiliaid Anwes

end content