Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Sefydliadau Marchogaeth


Summary (optional)
 I redeg sefydliad marchogaeth (lle mae ceffylau neu ferlod yn cael eu llogi i’w marchogaeth neu eu defnyddio ar gyfer hyfforddiant marchogaeth), byddwch angen trwydded gan yr awdurdod lleol.
start content

Ffioedd

Mae cais am drwydded, neu adnewyddu trwydded ar gyfer sefydliad marchogaeth yn costio £211 (gyda chostau adroddiad milfeddygol ychwanegol ar draul yr ymgeisydd). Gallwch dalu ar-lein gan ddefnyddio’r ddolen uchod.  Mae trwydded yn ddilys am 12 mis unwaith y caiff ei rhoi a rhaid ei hadnewyddu cyn y dyddiad dod i ben.    

Cymhwyster

Ni ddylai ymgeiswyr fod wedi eu hanghymhwyso rhag:

  • Cadw sefydliad marchogaeth
  • Cadw sefydliad bridio cŵn
  • Cadw siop anifeiliaid anwes
  • Cadw sefydliad anifeiliaid
  • Cadw anifeiliaid

Bydd angen i chi wirio a oes angen caniatâd cynllunio arnoch ar gyfer eich sefydliad marchogaeth. Cysylltwch â'r adran gynllunio i gael cyngor. Gallwn wrthod neu ohirio penderfyniad am y cais nes y bydd unrhyw fater cynllunio wedi cael ei benderfynu.

Dogfennau Ategol

Rhaid i chi anfon y dogfennau canlynol gyda'ch cais:

  • Cynllun safle a chynllun gosodiad
  • Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus
  • Tystysgrifau hyfforddiant

Prosesu ac Amserlenni

Bydd swyddog yn cynnal archwiliad o fewn 28 diwrnod o dderbyn eich cais.  Os nad ydych wedi clywed gennym o fewn y terfynau amser hyn, llenwch ein ffurflen ymholiad ar-lein.

Mae'n rhaid i'ch cais gael ei brosesu gennym ni cyn y gellir ei ganiatáu - nid yw cydsyniad tawel yn berthnasol.

Ni all unrhyw un redeg sefydliad marchogaeth heb gael trwydded yn gyntaf.

Deddfwriaeth ac Amodau

Rhaid i ymgeiswyr a deiliaid trwydded fodloni gofynion Deddf Sefydliadau Marchogaeth 1964 ac 1970, ac amodau cysylltiedig.

Cyn penderfynu ar gais, rhaid i'r awdurdod lleol ystyried adroddiad gan filfeddyg neu ymarferydd yn manylu a yw'r safle’n addas ar gyfer sefydliad marchogaeth a nodi cyflwr y safle ac unrhyw geffylau.

Bydd yr awdurdod lleol hefyd yn ystyried a yw'r ymgeisydd yn addas ac yn gymwys i ddal trwydded. Rhaid iddynt hefyd fod yn fodlon o'r canlynol:

  • bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i gyflwr y ceffylau ac y byddant yn cael eu cynnal mewn iechyd da, eu cadw'n ffit yn gorfforol ac os yw'r ceffyl am gael ei farchogaeth neu ei ddefnyddio yn ystod hyfforddiant marchogaeth, ei fod yn addas at y diben hwnnw
  • y bydd traed yr anifeiliaid yn cael eu trimio’n gywir a bod pedolau’n cael eu gosod yn gywir a'u bod mewn cyflwr da
  • y bydd llety addas ar gyfer y ceffylau
  • bod tir pori, cysgod a dŵr addas ar gyfer y ceffylau a gedwir ar y gwair, ac y bydd porthiant atodol yn cael ei ddarparu yn ôl yr angen
  • y bydd bwyd, diod a gwely addas yn cael ei ddarparu i'r ceffylau a byddant yn cael ymarfer corff, eu gwastrodi, yn gorffwys ac yn cael eu gweld yn rheolaidd
  • y bydd rhagofalon yn cael eu cymryd i leihau lledaeniad clefydau ymledol a heintus ac y bydd cyfarpar cymorth cyntaf a meddyginiaethau milfeddygol yn cael eu rhoi a’u cynnal a chadw         
  • bod gweithdrefnau priodol ar waith i amddiffyn a symud y ceffylau mewn achos o dân ac fel rhan o hyn, bod enw, cyfeiriad a rhif ffôn deiliad y drwydded yn cael eu harddangos y tu allan i'r safle a bod cyfarwyddiadau tân yn cael eu harddangos
  • bod cyfleusterau storio ar gyfer porthiant, gwely, offer stabl a chyfrwyau yn cael eu darparu

Yn ychwanegol at unrhyw amodau eraill, mae'n rhaid i drwydded sefydliad marchogaeth fod yn ddarostyngedig i'r amodau canlynol:

  • na fydd unrhyw geffyl wedi’i arolygu gan swyddog awdurdodedig sydd angen sylw milfeddygol yn mynd yn ôl i weithio nes bod deiliad y drwydded wedi cael tystysgrif filfeddygol, yn cadarnhau bod y ceffyl yn addas i weithio
  • na fydd ceffyl yn cael ei logi neu ei ddefnyddio mewn hyfforddiant heb oruchwyliaeth person cyfrifol 16 oed neu hŷn, oni bai bod deiliad y drwydded yn fodlon nad yw’r marchogwr angen goruchwyliaeth
  • na fydd y busnes yn cael ei adael yng ngofal rhywun o dan 16 mlwydd oed                                           
  • bod deiliad y drwydded yn dal yswiriant indemniad
  • bod deiliad y drwydded yn cadw cofrestr o'r holl geffylau yn ei feddiant sy'n dair blwydd oed neu'n ieuengach, a bod y gofrestr ar gael i'w harchwilio ar bob adeg resymol

Ceisiadau ac Apeliadau sydd wedi methu

Os byddwn ni’n gwrthod y drwydded, gallwch apelio i'r Llys Ynadon. Gall y llys roi cyfarwyddiadau ynghylch y drwydded neu ei hamodau.

Rhoi gwybod am broblem

Os oes gennych chi gŵyn neu ymholiad ynghylch sefydliad marchogaeth, anfonwch e-bost at animal.licensing@conwy.gov.uk.

Canllaw pellach:

end content