Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Busnes Trwyddedau a Hawlenni Hapchwarae Loterïau Cymdeithasau Bychain

Loterïau Cymdeithasau Bychain


Summary (optional)
Mae loterïau cymdeithasau bychain yn cael eu hyrwyddo er budd cymdeithas anfasnachol. Mae cymdeithas yn anfasnachol os yw'n cael ei sefydlu a'i chynnal ar gyfer dibenion elusennol. Mae'n galluogi cyfranogiad mewn chwaraeon, athletau a gweithgareddau diwylliannol, neu gefnogaeth ohonynt, ac ar gyfer unrhyw bwrpas anfasnachol arall ar wahân i elw preifat.
start content

Sut i wneud cais

Rhaid i bob cais gael ei wneud drwy lenwi’r ffurflen gais atodedig, ynghyd â llofnod y swyddogion priodol ar delerau ac amodau neu gyfansoddiad y Gymdeithas.

Ffioedd

Trwydded Ffi 
Cais am Drwydded Loterïau Cymdeithasau Bychain  £40
Ffi Flynyddol Loterïau Cymdeithasau Bychain  £20

 

Cymhwyster

Er mwyn cymhwyso fel loteri cymdeithas fach, rhaid i 2 o’r meini prawf canlynol gael eu diwallu gan gymdeithasau sy'n dymuno cofrestru:

Statws cymdeithas - mae'n rhaid i'r gymdeithas dan sylw fod yn 'anfasnachol' sy'n golygu bod yn rhaid iddi gael ei sefydlu a’i chynnal ar gyfer o leiaf un o'r dibenion canlynol:

  • at ddibenion elusennol (fel y'u diffinnir gan adran 2 o'r Ddeddf Elusennau), neu
  • at y diben o alluogi cyfranogiad mewn chwaraeon, athletau neu weithgaredd diwylliannol, neu gefnogaeth ohonynt, neu
  • at unrhyw bwrpas anfasnachol arall ar wahân i elw preifat.

Deddfwriaeth ac Amodau

Deddf Gamblo 2005

Prosesu ac Amserlenni

Dim graddfa amser benodol, yn dibynnu ar y Cais

Dulliau Apêl / Gwneud Iawn:

Gall y Cyngor wrthod cais i gofrestru dim ond ar ôl i'r gymdeithas gael cyfle i wneud sylwadau. Gall y rhain gael eu cymryd mewn gwrandawiad ffurfiol neu drwy ohebiaeth.

Manylion cyswllt:

  • Trwy e-bost: trwyddedu@conwy.gov.uk

  • Dros y Ffôn: 01492 576626
    Dydd Llun i Ddydd Gwener 10.00 i 12:30

  • Trwy'r post:

    Adain Drwyddedu
    Blwch Post 1
    Conwy
    LL30 9GN

Dolenni defnyddiol

Dogfennau

end content