Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Busnes Datblygu Economaidd Cyllid Prosiectau Cyllid Ewrop yng Nghonwy 2014–2020

Prosiectau Cyllid Ewrop yng Nghonwy 2014–2020


Summary (optional)
Mae prosiectau a gymeradwywyd drwy Gronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewrop cyn Brexit wedi’u hariannu i gwrdd â’r ymrwymiad.
start content

Mae’r prosiectau sydd wedi’u rhestru wedi’u cefnogi gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.

Cronfa Gymdeithasol Ewrop

ADTRAC 16-24 (Daeth y prosiect yma i ben mis Gorffennaf 2021)

Dan arweiniad Grŵp Llandrillo Menai

Mae’r prosiect hwn yn helpu pobl ifanc 16-24 oed sydd 'Ddim mewn Cyflogaeth, Addysg neu Hyfforddiant’ (NEET).

TRAC (Daeth y prosiect hwn i ben ym mis Rhagfyr 2022)

Dan arweiniad Cyngor Sir Ddinbych

Roedd y prosiect hwn yn cefnogi pobl ifanc 11–24 oed oedd yn datgysylltu oddi wrth addysg ac mewn perygl o fod yn NEET (heb fod mewn addysg, gwaith na hyfforddiant).

STEM Gogledd (daeth y prosiect hwn i ben ym Mehefin 2023)

Dan arweiniad Cyngor Sir Gwynedd

Roedd y prosiect yn gweithio i gynyddu’r nifer o fyfyrwyr 11 – 19 oed oedd yn astudio pynciau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM). Roedd gweithgareddau yn cynnwys adnoddau ar-lein a dyddiau gweithgaredd STEM.

Tîm Ymgysylltu Rhanbarthol Gogledd Cymru

O dan arweiniad Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cafodd y Tîm Ymgysylltu Rhanbarthol ei sefydlu yn wreiddiol i sicrhau ymgysylltu tryloyw traws sector ar draws Rhanbarth Gogledd Cymru, gan sicrhau  bod cynigion ar gyfer Cronfa Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd wedi’i alinio gyda’r uchelgeisiau strategol rhanbarthol.

Mae’r tîm nawr yn esblygu i gefnogi Gweledigaeth Twf Gogledd Cymru, strategaethau rhanbarthol, ffyrdd o weithio a buddsoddi, a bydd yn gweithio’n agos gyda Swyddog Rhaglen Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a’r Timau Rhanbarthol o fewn Llywodraeth Cymru.

OPUS (Daeth y prosiect yma i ben mis Awst 2019)

O dan arweiniad Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Roedd y prosiect ar gyfer pobl 25+ oed nad oedd yn byw yn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf a oedd yn economaidd anweithgar neu yn ddi-waith yn hirdymor, y rhai pellaf i’w cyrraedd gyda nifer o rwystrau i sgiliau a chyflogaeth.

Cymunedau ar gyfer Gwaith

Mae prosiectau Cymunedau ar gyfer Gwaith Llywodraeth Cymru yn gweithio ar ardaloedd Cymunedau ar gyfer Gwaith yn unig. Mae Cymunedau ar gyfer Gwaith yn helpu pobl sydd â rhwystrau i sgiliau a chyflogaeth.  Mae’n rhaid i bobl fod 25+ i fod yn economaidd anweithgar neu’n ddi-waith yn hirdymor a ‘Ddim mewn Cyflogaeth, Addysg neu Hyfforddiant’ (16-24 oed).

Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop

Safle Cyflogaeth Ffordd Penmaen, Morfa Conwy

O dan arweiniad Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Roedd y prosiect wedi derbyn cefnogaeth ar gyfer seilwaith safle a arweiniodd at adeiladu unedau masnachol newydd – cefnogi datblygiad busnesau lleol a dod â busnesau a swyddi newydd i’r ardal.

Cyrchfannau Denu Twristiaeth (Croeso Cymru) – Prosiect Glan y Môr

Dan arweiniad Croeso Cymru

Cwblhawyd y gwaith Gwelliannau Amgylcheddol ar gyfer Cam 1 dan Raglen Adfywio Trefi Arfordirol Llywodraeth Cymru.  Cafodd hwn ei ariannu trwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop ynghyd â chyllid Ardal Adfywio Strategol Llywodraeth Cymru.

Gwnaed Cam 2 y Prosiect dan Raglen Cyrchfannau Denu Twristiaeth Croeso Cymru, gyda chyllid gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a chynllun Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid Llywodraeth Cymru.

Roedd Cam 2 yn cynnwys gwelliannau amgylcheddol i’r Promenâd rhwng y Pier ac Arglawdd Cayley.  Roedd hefyd yn cynnwys gwelliannau i’r amddiffynfeydd arfordirol, adeilad caffi newydd a gosod llythrennau ‘COLWYN’.

Cyrchfannau Denu Twristiaeth (Croeso Cymru) – Prosiect Venue Cymru

Dan arweiniad Croeso Cymru

Roedd y prosiect yn ailosod y cynllun y tu mewn i’r Venue i wneud gwell defnydd o’r lle i gynnal y rhaglen amrywiol o sioeau a digwyddiadau.

Gwnaed y Prosiect dan Raglen Cyrchfannau Denu Twristiaeth Croeso Cymru, gyda chyllid gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.

Adeiladu ar gyfer y Dyfodol – 7 Ffordd Abergele, Bae Colwyn

Dan arweiniad Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Adnewyddu adeilad rhestredig gradd II oedd wedi mynd â’i ben iddo, gan greu lle gweithio newydd gydag ardal gyfarfod i bobl a busnesau yn y diwydiant creadigol. Mae’r prosiect wedi’i ariannu trwy Raglen Adeiladu ar gyfer y Dyfodol Llywodraeth Cymru gyda chyllid o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

ERDF Port RGB  ESF Port RGB

end content