Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Busnes Ailgylchu yn y gweithle

Ailgylchu yn y gweithle


Summary (optional)
Mae cyfraith ailgylchu newydd yn y gweithle yn dechrau o 6 Ebrill 2024
start content

Mae cyfraith ailgylchu newydd yn y gweithle yn dechrau o 6 Ebrill 2024. Mae'n golygu y bydd angen i bob busnes, elusen a sefydliad sector cyhoeddus ddidoli eu gwastraff i'w ailgylchu yn yr un ffordd ag y mae'r rhan fwyaf o aelwydydd yn ei wneud nawr.

Y nod yw gwella ansawdd a maint yr ailgylchu yng Nghymru.

Yr hyn y mae'r gyfraith newydd yn ei olygu

Bydd yn rhaid i bob gweithle wahanu'r deunyddiau canlynol i'w casglu:

  • Bwyd
  • Papur a cherdyn
  • Gwydr
  • Metelau, plastigau a chartonau
  • Tecstilau heb eu gwerthu
  • Offer trydanol ac electronig gwastraff bach heb eu gwerthu (sWEEE)

Bydd gwaharddiad hefyd ar:

  • Anfon unrhyw wastraff bwyd (o ba faint bynnag) i garthffosydd
  • Gwastraff a gesglir ar wahân sy’n mynd i safleoedd llosgi a thirlenwi
  • Pob gwastraff pren sy’n mynd i safleoedd tirlenwi 

Mae hefyd yn berthnasol i'r holl gasglwyr a phroseswyr gwastraff ac ailgylchu sy'n casglu ac yn rheoli gwastraff o weithleoedd.

Am fwy o wybodaeth ewch i Ailgylchu yn y Gweithle, mae'n bryd i ni sortio hyn (Llywodraeth Cymru)

end content