Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Mynediad i Wybodaeth Rheolau Tŷ Cyfryngau Cymdeithasol

Rheolau Tŷ Cyfryngau Cymdeithasol


Summary (optional)
start content

Bydd ein sianeli cyfryngau cymdeithasol yn cynnwys amrywiaeth o wybodaeth gan ein gwasanaethau a’n partneriaid, ac yn rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf gyda chi am beth sy’n digwydd ar draws y sir.

Rydym yn hapus i helpu ym mha bynnag ffordd y gallwn, ond rydym yn disgwyl i ddefnyddwyr ymdrin â ni gyda’r un lefel o gwrteisi.  Mae arnom ni eisiau i’n sianeli cyfryngau cymdeithasol gynnig mannau diogel ar gyfer trafodaethau iach, agored a diddorol, ac oherwydd hynny, mae gennym gyfres fer o reolau:

  • Dylid ymdrin ag eraill mewn modd cyfeillgar ac mewn modd yr hoffech chi i bobl ymdrin â chi.  Byddwch yn gwrtais, hyd yn oed os ydych chi’n anghytuno.
  • Parchwch safonau cymunedol bob platfform cyfryngau cymdeithasol.
  • Chi sy’n gyfrifol am unrhyw gynnwys rydych yn ei rannu gan gynnwys unrhyw gynnwys rydych yn dewis ei rannu.
  • Os oes arnoch chi angen anfon gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni dros e-bost neu drwy neges breifat.

Byddwn yn dileu neu’n cuddio unrhyw sylwadau sydd, yn ein barn ni, yn:

  • ymosodol neu’n anweddus
  • anaddas neu’n gwahaniaethu yn erbyn unigolion neu grwpiau
  • dwyllodrus neu gamarweiniol
  • mynd yn erbyn Hawliau Eiddo Deallusol, gan gynnwys hawlfraint
  • mynd yn groes i unrhyw gyfraith neu reoliad
  • sbam neu’n amherthnasol (negeseuon negyddol neu ymosodol parhaus sy’n anelu at ysgogi ymateb)
  • ddeunydd hyrwyddol, gan gynnwys dolenni i wefannau a hysbysiadau allanol

Ni fyddwn yn goddef nac yn ymateb i negeseuon ymosodol. 

Byddwn yn blocio unrhyw un sy’n ymgysylltu â ni’n defnyddio cynnwys neu iaith sy’n dod o dan unrhyw un o’r categorïau hyn ac yn rhoi gwybod i’r platfform cyfryngau cymdeithasol.

Mae’n rhaid i ni fod yn wleidyddol niwtral bob amser ar y cyfryngau cymdeithasol.  Nid yw swyddogion y Cyngor yn gallu ymateb i, cymeradwyo neu ymgysylltu ag unrhyw ddeunydd sy’n wleidyddol bleidiol ei natur. Os hoffech chi drafod materion gwleidyddol, cysylltwch â’ch cynghorydd lleol.

Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu plant a grwpiau diamddiffyn.

Conwy County Borough Council social media accounts:

Facebook , X (Twitter) , Instagram , LinkedIn

end content