Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Dysgu a Datblygu


Summary (optional)
Cefnogi datblygiad personol a phroffesiynol ein staff
start content

Mae ein cynllun dysgu a datblygu cynhwysfawr yn cynnwys amrywiaeth o gyfleoedd dysgu. Mae’n cyd-fynd â’n Cynllun Corfforaethol, sydd yn eich helpu i weld lle mae eich dysgu yn cyfrannu tuag at gyflawni ein gweledigaeth a’n gwerthoedd.

Rydym hefyd yn cefnogi ein staff i gyflawni cymwysterau academaidd a phroffesiynol a phrentisiaethau pan fo’n briodol.

Mae prentisiaethau yn rhaglenni hyfforddi yn y gwaith sy’n arwain at gymhwyster cydnabyddedig ac yn addas i bawb; aelod o staff newydd wedi’i recriwtio i swydd prentisiaeth neu rywun sydd eisiau uwchsgilio.

end content