Mae gennym amrywiaeth eang o leoliadau gwaith di-dâl sydd ar gael i bobl o bob oed sy’n edrych am brofiad gwaith.
Gallwch ddatblygu sgiliau wrth wneud gweithgareddau yn y gwaith a allai arwain at gyflogaeth gyda ni yn y dyfodol. Gobeithiwn y bydd cwblhau lleoliad gwaith gyda ni yn rhoi’r cyfle i chi dreulio amser mewn swydd y mae gennych ddiddordeb ynddi a deall y sgiliau sydd eu hangen.
Os nad ydych yn siŵr o’r gwasanaethau rydym yn eu darparu a’r amrywiaeth o swyddi sydd gennym ledled ein sefydliad, cliciwch yma.
I gofrestru diddordeb mewn lleoliad profiad gwaith, dewiswch ‘Gwneud cais am leoliad brofiad gwaith’ er mwyn agor y ffurflen ar-lein.
Gwneud cais am leoliad profiad gwaith
Os oes angen unrhyw gymorth arnoch, cysylltwch â:
E-bost: hyfforddiant@conwy.gov.uk
Ffôn: 01492 576322