Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Cyngor i landlordiaid


Summary (optional)
start content

Credyd Cynhwysol

Mae Credyd Cynhwysol yn cael ei gyfrifo gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ac ni ellir talu Budd-dal Tai os yw’r hawliwr yn derbyn Credyd Cynhwysol.

Mae Credyd Cynhwysol yn fudd-dal sy’n cael ei dalu i bobl sengl fyddai wedi hawlio Lwfans Ceisio Gwaith. Fel arfer, un taliad misol fydd Credyd Cynhwysol sy'n cael ei dalu mewn ôl-daliadau yn uniongyrchol i gyfrif yr hawliwr. Bydd taliadau yn cynnwys yr holl gostau tai cymwys, lle bo’n briodol - sy'n golygu y bydd hawlwyr yn gyfrifol am dalu eu rhent eu hunain.

Ôl-ddyledion Tenantiaid

Budd-dal Tai

Rydym yn argymell, os bydd tenant yn dechrau mynd i ôl-ddyledion rhent (mwy na 2 wythnos), y dylech gysylltu â ni cyn iddo gyrraedd wyth wythnos. Bydd hyn yn ein galluogi i ymchwilio i weld a oes problem sydd angen ei datrys. Mae'n bosibl y bydd taliadau yn y dyfodol yn cael eu gwneud i chi lle y bo'n briodol. Bydd angen prawf o'r ôl-ddyledion i ystyried hyn.

Credyd Cynhwysol

Os bydd tenant yn cael trafferth talu eu rhent, llenwch y ffurflen UC47 i ofyn am daliad o rent o Gredyd Cynhwysol tenant.

Gwybodaeth y gallwn ei rhoi

Os byddwch yn cysylltu â ni, rydym yn gyfyngedig o ran yr wybodaeth y gallwn ei rhoi i chi oherwydd bod gwybodaeth hawliwr yn gyfrinachol. Fodd bynnag, gallwn roi gwybodaeth benodol mewn rhai achosion lle mae'r landlordiaid yn cael eu hystyried fel 'person yr effeithir arnynt'. Gallai hyn fod pan:

  • Rydym yn adennill gordaliad gennych. Gallwn roi gwybod i chi am y swm, y cyfnod a’r rhesymau dros adennill gordaliad.
  • Rydym yn talu Budd-dal Tai yn uniongyrchol i chi. Gallwn roi gwybod i chi am y swm, cyfradd wythnosol y budd-dal a'r cyfnod a gwmpesir gan sieciau a anfonir yn uniongyrchol atoch, a'r dyddiad mae taliadau uniongyrchol yn dod i ben.
  • Mae taliadau uniongyrchol i Landlord wedi cael eu gwrthod. Gallwn egluro pam.

Caniatâd Tenantiaid

Gallwn drafod hawliad os yw'r tenant yn rhoi caniatâd i ni drwy lofnodi ffurflen caniatâd tenant. Os na fydd hawliwr wedi gofyn bod budd-dal yn cael ei dalu'n uniongyrchol i'r landlord, ni allwn roi unrhyw wybodaeth am hawliad o gwbl.

Gallwn hefyd roi gwybodaeth i landlordiaid os yw tenant wedi llofnodi llythyr yn cadarnhau y gall eu landlord weithredu ar eu rhan. Gall caniatâd tenant amrywio rhwng tenantiaid a gallwn gadarnhau bwriadau'r hawliwr pryd bynnag y byddwn yn teimlo ei fod yn addas. 

Gwybodaeth arall

Efallai y byddwn yn rhoi gwybodaeth arall i landlordiaid os yw anghenion yr hawliwr yn ei wneud yn addas neu os yw'n helpu'r gwaith o weinyddu budd-daliadau, e.e. pan fyddwn yn aros am fwy o wybodaeth gan y tenant.

end content