Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Budd-daliadau a Grantiau Budd-dal Tai Tan-feddiannu tai cymdeithasol

Tan-feddiannu tai cymdeithasol


Summary (optional)
Cyfyngiadau ar Fudd-dal Tai ar sail anghenion eich aelwyd.
start content

Os ydych yn rhentu eiddo gan awdurdod lleol, cymdeithas dai gofrestredig neu landlord cymdeithasol cofrestredig arall, bydd y swm o Fudd-dal Tai y byddwch yn ei gael wedi'i seilio ar y nifer o ystafelloedd gwely mae eich aelwyd ei angen.

Mae’r rheolau'n caniatáu un ystafell wely ar gyfer:

  • Pob cwpl sy’n oedolion (wedi priodi a heb briodi)
  • Unrhyw oedolyn arall 16 oed neu hŷn
  • Unrhyw ddau blentyn o’r un rhyw dan 16 oed
  • Unrhyw ddau blentyn dan 10 oed
  • Unrhyw blentyn arall
  • Gofalwr nad ydynt yn preswylio yno

Os ydych yn cael eich ystyried i fod ag un neu fwy o ystafelloedd gwely ychwanegol, efallai y bydd eich Budd-dal Tai'n cael ei leihau.

Os ydych yn tan-feddiannu, bydd gostyngiad i’ch Budd-dal Tai o:

  • 14% am dan-feddiannu un ystafell wely (oddeutu £13 yr wythnos)
  • 25% am dan-feddiannu dwy ystafell wely (oddeutu £23 yr wythnos)


Cyfarwyddyd ychwanegol ar gyfer:

  • Plentyn anabl neu oedolyn anabl annibynnol sydd angen gofal dros nos
  • Cwpl sy'n methu â rhannu ystafell wely oherwydd anabledd

Taflen Ffeithiau Hawlydd Budd-dal Tai: Tynnu Cymhorthdal Ystafell Sbâr

Cwpl yn gallu rhannu ystafell wely (pdf)

Plentyn anabl neu oedolion nad ydynt yn ddibynnol anabl sydd angen gofal dros nos (pdf)

Oes-gennych-chi-neu'ch-partner-ofalwr-sy'n-aros-dros-nos-yn-eich-cartref (pdf)

end content