Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Budd-daliadau a Grantiau Credyd Cynhwysol Ymfudo a Reolir ar gyfer Credyd Cynhwysol

Ymfudo a Reolir ar gyfer Credyd Cynhwysol


Summary (optional)
start content

Dros y ddwy flynedd nesaf, bydd angen i fwyafrif yr unigolion oedran gweithio sy’n cael budd-daliadau etifeddol (Credyd Treth, Lwfans Cymorth Cyflogaeth yn gysylltiedig ag Incwm, Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm a Budd-dal Tai) hawlio Credyd Cynhwysol.

Hysbysiad Ymfudo ("Migration Notice") yw llythyr gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ("DWP") yn gofyn i chi hawlio Credyd Cynhwysol o fewn 3 mis.

Ar gyfer grŵp cyntaf yr aelwydydd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy sy’n cael eu heffeithio gan yr ymfudo a reolir i Gredyd Cynhwysol, byddant yn cael eu cyflwyno o fis Chwefror 2024.  Os ydych chi mewn cwpl, bydd y ddau ohonoch yn cael llythyrau gyda’r un terfyn amser.

Aelwydydd yr effeithir arnynt o fis Chwefror 2024

Y grŵp cyntaf o aelwydydd yr effeithir arnynt yw aelwydydd sy’n cael Credydau Treth ond nad ydynt yn cael unrhyw fudd-daliadau eraill sy’n ymwneud ag incwm, er enghraifft:

  • Yn gweithio ac yn cael Credyd Treth.
  • Hunangyflogedig ac yn cael Credyd Treth.
  • Mae gennych gyfalaf o dros £16,000 ac yn cael Credyd Treth (yn wahanol i Gredyd Treth, mae gan Gredyd Cynhwysol drothwy cyfalaf o £16,000 sy’n golygu na fyddwch yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol os oes gennych £16,000 neu fwy mewn cyfalaf. Fodd bynnag, os ydych chi’n hawlio Credyd Cynhwysol erbyn y dyddiad terfyn mae modd parhau i gael Credyd Cynhwysol am hyd at 12 mis).

Aelwydydd yr effeithir arnynt o fis Ebrill 2024

Ni fyddwch yn y grŵp cyntaf os ydych chi’n cael Credyd Treth ac unrhyw un o’r canlynol:

  • Budd-dal Tai
  • Lwfans Cymorth Cyflogaeth sy’n Gysylltiedig ag Incwm
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm

Bydd yn effeithio ar yr aelwydydd hyn ond nid tan ar ôl mis Ebrill 2024.

Hysbysiad Ymfudo

Hysbysiad Ymfudo ("Migration Notice") yw llythyr gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ("DWP") yn gofyn i chi hawlio Credyd Cynhwysol o fewn 3 mis.

Mae’n rhaid i chi hawlio Credyd Cynhwysol o fewn 3 mis o ddyddiad yr Hysbysiad Ymfudo neu bydd eich hawl i fudd-daliadau presennol yn dod i ben a byddwch yn colli’r hawl ar gyfer “Diogelwch Trosiannol” wrth hawlio Credyd Cynhwysol.

Diogelwch Trosiannol yw’r gwahaniaeth rhwng eich budd-daliadau/ Credyd Treth presennol a Chredyd Cynhwysol.  Os oedd eich hawl i’ch budd-daliadau / Credydau Treth presennol yn uwch na’ch Credyd Cynhwysol a’ch bod yn hawlio Credyd Cynhwysol cyn y dyddiad terfyn, yna ni ddylech gael llai o arian wrth symud i Gredyd Cynhwysol.

Os ydych chi’n hawlio eich Credyd Cynhwysol ar ôl y dyddiad terfyn (3 mis o ddyddiad eich Hysbysiad Ymfudo) yna ni fyddwch yn cael unrhyw Ddiogelwch Trosiannol.  Mae amgylchiadau penodol lle y gallwch ofyn am estyniad i’r diwrnod terfyn wrth hawlio Credyd Cynhwysol, ond mae’n rhaid cyflwyno cais am estyniad cyn y dyddiad terfyn.

Nid oes gennych y dewis i aros ar eich budd-daliadau etifeddol.

Os ydych chi’n hawlio Credyd Cynhwysol cyn y dyddiad terfyn, bydd eich hawl i fudd-daliadau etifeddol yn dod i ben y diwrnod cyn i chi fod yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol.  Caiff hyn ei ymestyn am bythefnos os ydych chi’n gymwys ar gyfer taliad dilyniant Budd-dal Tai, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar Incwm neu Gymhorthdal Incwm.

Os nad ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol erbyn y dyddiad terfyn, eich diwrnod olaf o fod yn gymwys i gael eich budd-daliadau presennol fydd pythefnos ar ôl eich dyddiad terfyn.

Ni fydd eich hawl i Fudd-dal Tai yn dod i ben os ydych chi mewn llety â chymorth neu lety digartrefedd dros dro.

Os yw eich Credyd Cynhwysol yn cynnwys Diogelwch Trosiannol mae newidiadau penodol sy’n gallu lleihau eich taliadau diogelwch trosiannol a newidiadau penodol sy’n arwain at derfynu taliadau diogelwch trosiannol.

Darllenwch Canllawiau: Credyd Cynhwysol os ydych yn derbyn llythyr Hysbysiad Trosglwyddo ar wefan Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).

end content