Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Ynglŷn â Chredyd Cynhwysol


Summary (optional)
Mae Credyd Cynhwysol yn fudd-dal newydd i bobl o oedran gweithio sydd ar incwm isel neu'n ddi-waith.
start content

Mae Credyd Cynhwysol yn un taliad misol a fydd yn y pen draw yn cymryd lle:

  • Budd-dal Tai
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Gysylltiedig ag Incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Gysylltiedig ag Incwm
  • Credyd Treth Gwaith
  • Credyd Treth Plant

Ni fydd Credyd Cynhwysol yn cymryd lle Budd-dal Plant. Cewch wybod mwy am Fudd-dal Plant yma: https://www.gov.uk/child-benefit

Mae Credyd Cynhwysol yn wahanol i fudd-daliadau eraill:

  • Bydd yn cael ei dalu mewn un taliad misol i'ch cyfrif Banc, Cymdeithas Adeiladu neu Undeb Credyd
  • Nid oes cyfyngiadau ar faint o oriau'r wythnos y gallwch eu gweithio os ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol

Cymorth gyda Chostau Tai:

  • Bydd unrhyw gymorth a gewch gyda'ch rhent yn cael ei gynnwys yn eich taliad Credyd Cynhwysol
  • Byddwch yn gyfrifol am dalu eich rhent i'ch landlord
  • Mewn rhai amgylchiadau, gall ceisiadau gael eu gwneud i daliadau gael eu gwneud yn uniongyrchol i'r landlord

Cyfrifiannell Budd-daliadau

Dylid defnyddio’r cyfrifianellau hyn fel canllaw yn unig i'ch hawl budd-dal posibl gan y gall fod ffactorau eraill sy'n effeithio ar y swm terfynol y mae gennych hawl iddo. Efallai y bydd y swm y byddwch yn cyfrifo yn wahanol i'r swm rydych yn gymwys i'w dderbyn.

Gwasanaeth Credyd Cynhwysol Llawn

Mae Gwasanaeth Credyd Cynhwysol Llawn wedi bod yn cael ei gyflwyno yn genedlaethol (y tu hwnt i Lundain) ers mis Mai, 2016. Y dyddiad cyflwyno i breswylwyr ym Mwrdeistref Sirol Conwy yw:-

  • 11 Ebrill, 2018 ar gyfer trigolion sy’n dod o dan Ganolfan Byd Gwaith y Rhyl
  • 6 Mehefin, 2018 i drigolion sy’n dod o dan Ganolfannau Byd Gwaith Bae Colwyn a Llandudno

Ar y dyddiadau uchod agorodd y porth i hawliadau newydd am Gredyd Cynhwysol gan:

  • Pobl sengl
  • Pobl sengl gydag 1 neu 2 o blant
  • Cyplau
  • Cyplau gydag 1 neu 2 o blant
  • Pobl sy’n ddi-waith, gan gynnwys y rhai hynny sy’n sâl
  • Pobl sydd mewn gwaith gan gynnwys pobl hunangyflogedig

O 1 Chwefror 2019 estynnwyd hyn i bobl sengl a chyplau gyda 3 neu fwy o blant

Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Universal Credit.

Rydw i mewn oedran gwaith, pryd bydd rhaid i mi symud o hawlio Budd-dal Tai gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i Gredyd Cynhwysol sy’n cael ei dalu gan yr Adran Waith a Phensiynau?

Pan fydd newid perthnasol yn eich amgylchiadau, bydd eich Budd-dal Tai yn dod i ben a byddwch yn cael eich gwahodd i hawlio Credyd Cynhwysol a chyfeirir at hyn fel Mudo Naturiol.

Os na fyddwch wedi symud drosodd i Gredyd Cynhwysol fel rhan o’r mudo naturiol bydd rhaglen dreigl i'ch symud chi drosodd i Gredyd Cynhwysol, drwy Fudo a Reolir a ddylai ddod i ben erbyn 2025. Nid yw dyddiad dechrau’r Mudo a Reolir ym Mwrdeistref Sirol Conwy wedi’i roi eto.

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau wedi cynhyrchu taflen ddefnyddiol ynglŷn â Chredyd Cynhwysol i ymgeiswyr - Universal Credit and You (PDF)

Cymorth Cynhwysol 

Bydd Staff Budd-daliadau Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn gallu edrych ar eich hawl posibl a’ch helpu i hawlio’r canlynol os oes angen cymorth arnoch:

  • Lleihau eich taliadau Treth y Cyngor drwy hawlio Gostyngiad Treth y Cyngor
  • Gostyngiad ar eich cyfraddau taliadau dŵr gan Dŵr Cymru drwy hawlio gostyngiad
  • Atgyfeiriad i Fanc Bwyd am gymorth
  • Hawlio cymorth tuag at Daliadau Dewisol Tai (cyfyngedig i arian parod) a fydd yn cynorthwyo gydag unrhyw ddiffyg na allwch ymdopi ag o rhwng eich Costau Tai a’r swm y mae hawl gennych iddo yn eich hawl Credyd Cynhwysol.

Cysylltwch â’r Swyddfa Fudd-daliadau os oes angen gwybodaeth/ cymorth pellach arnoch ar y rhif ffôn 01492 576491. 

Cymorth digidol

Mae’r Gwasanaeth Credyd Cynhwysol Llawn yn wasanaeth digidol rhyngweithiol.

Gwasanaeth ffôn am ddim Cymorth i Hawlio Credyd Cynhwysol yng Nghymru yw: 08000 241 220.  Mae ymgynghorwyr ar gael ddydd Llun i ddydd Gwener 8:00am i 6:00pm.

Bydd llyfrgelloedd Bwrdeistref Sirol Conwy yn gallu cynnig mynediad am ddim i’r rhyngrwyd/ defnyddio cyfrifiaduron y llyfrgell

Bydd Staff Llyfrgelloedd yn eich cynorthwyo i sefydlu cyfeiriad e-bost a dangos sut i sganio, cadw ac uwchlwytho dogfennau i’ch cyfrif Credyd Cynhwysol, nid oes rhaid gwneud apwyntiad.

Mae oriau agor Llyfrgelloedd ym Mwrdeistref Sirol Conwy ar gael yma: Lleoliadau llyfrgelloedd ac oriau agor

Taliadau Credyd Cynhwysol Ymlaen Llaw

Os oes angen cymorth ariannol arnoch cyn i chi dderbyn eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf a’ch bod yn cwrdd ag amodau penodol a osodir gan yr Adran Waith a Phensiynau, gallwch geisio am daliad Credyd Cynhwysol ymlaen llaw. Mae hwn yn fenthyciad y bydd angen i chi ei ad-dalu o’ch hawl misol am Gredyd Cynhwysol o fewn 52 wythnos.

Os hoffech chi ymgeisio am daliad ymlaen llawn, bydd angen i chi gysylltu â'ch Hyfforddwr Gwaith yn eich Canolfan Waith leol neu ymgeisio ar-lein.

https://www.gov.uk/universal-credit

end content