Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Hawliau Lles (Cyngor ar Fudd-daliadau)


Summary (optional)
Gallwn roi cyngor i chi ar fudd-daliadau a chymorth arall y gallech fod â hawl iddyn nhw.
start content

Sut y gallwn eich helpu

Rydym yn darparu cyngor am ystod gyfan o fudd-daliadau nawdd cymdeithasol gan gynnwys:

  • Taliad Annibyniaeth Bersonol (PIP)
  • Lwfans Byw i'r Anabl ar gyfer Plant
  • Lwfans Gweini
  • Credyd Pensiwn
  • Credyd Cynhwysol

Yn ogystal â lwfansau eraill y gallech eu hawlio, megis:

  • prydau ysgol am ddim
  • grantiau gwisg ysgol
  • gostyngiad yn eich biliau dŵr
  • gostyngiad yn eich treth y cyngor.

Byddwn yn gwirio pa fudd-daliadau y gallech fod yn gymwys i’w derbyn a byddwn yn eich cynghori a'ch helpu â’r broses ymgeisio. Ambell waith gallwn eich helpu dros y ffôn, ac ar adegau eraill bydd angen i ni drefnu apwyntiad ar eich cyfer i gyfarfod ag aelod o’n tîm, a fydd yn eich cefnogi trwy’r broses.

Ar hyn o bryd rydym yn darparu gwasanaeth i unrhyw un sy’n byw yn Sir Conwy.

Cysylltwch â ni

E-bost: hawliau.lles@conwy.gov.uk

Rhif ffôn: 01492 576605 (Dydd Llun – Dydd Iau 9am tan 5pm a dydd Gwener 9am tan 4.45pm)

Mae cyngor gan Dîm Hawliau Lles Conwy yn gyfrinachol ac AM DDIM.

Cysylltwch â ni heddiw – peidiwch ag oedi cyn hawlio budd-daliadau y mae gennych hawl i’w derbyn.

Efallai y cewch wybodaeth gyffredinol am bobl a gwasanaethau ledled Cymru a allai’ch helpu â phethau sy’n bwysig i chi ar www.dewis.cymru

end content