Ar hyn o bryd mae’r Cyngor yn berchen ar bron i 300 o eiddo. Mae’r portffolio eiddo yn cynnwys adeiladau corfforaethol adnabyddus fel Bodlondeb yng Nghonwy a’r Ganolfan Ddinesig ym Mae Colwyn ac adeiladau fel Venue Cymru, llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden. Mae hefyd yn berchen ar y rhan fwyaf o ysgolion cynradd ac uwchradd yn y sir.
Mae sicrhau bod yr adeiladau hyn mewn cyflwr da a diogel yn waith pwysig iawn. Mae’r rhan fwyaf o’r adeiladau yn cael eu defnyddio gan naill ai aelodau o staff a/neu’r cyhoedd. Mae iechyd, diogelwch a lles y rheiny sy’n gweithio neu’n ymweld â’r adeiladau hyn yn flaenoriaeth i ni.
Mae Archwilwyr Adeiladau’r Grŵp Perygl Llifogydd a Seilwaith yn gyfrifol am archwilio ac asesu cyflwr pob eiddo ym meddiant Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Yn dibynnu ar fath a defnydd yr adeiladau, caiff pob adeilad ei archwilio naill ai bob blwyddyn neu bob 3 neu 5 mlynedd.
I gael rhagor o wybodaeth am archwilio adeiladau, cysylltwch â ni.