Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Adrodd am Drosedd Casineb


Summary (optional)
Mae Digwyddiad Casineb neu Drosedd Casineb yn drosedd a gyflawnwyd oherwydd pwy ydych chi neu oherwydd pwy mae rhywun yn meddwl ydych chi. Yn syml iawn, os oes unigolyn neu grŵp o bobl yn eich targedu chi oherwydd eich oed, anabledd, rhywioldeb, crefydd, ethnigrwydd, rhyw (gan gynnwys hunaniaeth o ran rhywedd) neu oherwydd eich dewis chi o ran ffordd o fyw (e.e. Goth), ac yn cyflawni trosedd yn eich erbyn, yn eich bwlio neu yn aflonyddu arnoch, yna mae hyn yn drosedd casineb neu ddigwyddiad casineb.
start content

Gall gynnwys:

  • Cam-drin geiriol
  • Graffiti tramgwyddus
  • Ymddygiad bygythiol
  • Difrod i eiddo
  • Ymosodiad
  • Seiberfwlio
  • Negeseuon testun, negeseuon e-bost neu alwadau ffôn difrïol
  • Cymryd arian oddi wrthych

Pam ei bod yn bwysig adrodd am ddigwyddiad casineb neu drosedd casineb

Nid oes digon yn adrodd am ddigwyddiadau casineb a throseddau casineb. Mae angen i ni ddeall y broblem fel y gall y penderfyniadau cywir gael eu gwneud i'ch atal chi neu aelod o'ch teulu a'ch ffrindiau rhag dioddef y tro nesaf.

Heb i ni wybod fod y materion hyn yn digwydd, ni allwn eu hatal rhag digwydd i chi neu rywun arall. Mae adrodd am y materion hyn yn ein helpu ni a sefydliadau eraill i olrhain maint y broblem yn eich ardal leol a gwneud y pethau iawn i wneud eich cymuned yn fwy diogel, yn lle gwell i fyw a sicrhau bod y cymorth cywir ar gael. Gall y cymorth cywir olygu y gallwn stopio dioddefwyr rhag teimlo'n ynysig, yn isel, yn ofnus, yn ofidus, neu hyd yn oed yn waeth na hynny, eu rhwystro rhag gwneud amdanynt eu hunain.

Cefnogaeth a chymorth

Mae Cymorth i Ddioddefwyr wedi'i gyllido gan Lywodraeth Cymru i gynyddu nifer yr achosion o droseddau casineb a digwyddiadau casineb yr adroddir amdanynt ledled Cymru ac i gynnig cefnogaeth i ddioddefwyr y troseddau hyn. Drwy weithio gyda sefydliadau eraill fel yr Heddlu, gall Cymorth i Ddioddefwyr fynd ati i atal troseddau casineb pellach drwy dargedu ymyriadau'n lleol ac yn genedlaethol.

Mae cefnogaeth wedi'i theilwra i anghenion pob dioddefwr a gallai gynnwys cefnogaeth emosiynol, cefnogaeth ymarferol neu eiriolaeth. Gallwn hefyd ddarparu cymorth i chi wrth adrodd am drosedd wrth yr Heddlu ac i fynychu'r llys, ond nid oes pwysau arnoch i wneud hyn. Hyd yn oed os nad oes angen cefnogaeth arnoch chi, mae'n bwysig i ni wybod pa droseddau sy'n digwydd ac yn lle.

Pwy i gysylltu â hwy:

  • Ffoniwch yr Heddlu yn uniongyrchol drwy ffonio 999 os ydych mewn perygl dybryd, neu 101 pan nad yw'n argyfwng
  • Ffoniwch 08456 121 900 (24/7) i gysylltu â Chymorth i Ddioddefwyr yn uniongyrchol. Caiff galwadau eu trin yn gyfrinachol ac mae gennych y dewis i aros yn ddienw.
  • Ar-lein yn www.reporthate.victimsupport.org.uk
end content