Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Graeanu yn y gaeaf


Summary (optional)
Graeanu a chlirio eira
start content

Rydym yn derbyn rhagolygon y tywydd yn ddyddiol drwy gydol y gaeaf; mae’r rhagolygon hyn yn benodol i Sir Conwy.  Mae'r halen yn cael ei ddosbarthu yn ystod cyfnod 2½ - 3 awr yn y nos ac un arall yn y bore pan fydd rhagolygon o rew neu amodau rhewllyd. Mae ein holl benderfyniadau ynglŷn â graeanu yn cael eu gwneud er lles diogelwch ar y ffyrdd, ac maent yn seiliedig ar ragolygon y tywydd.

Ffyrdd Blaenoriaeth Gyntaf

Pan fydd rhagolygon o eira, bydd Ffyrdd Blaenoriaeth Gyntaf, gan gynnwys prif lwybrau traffig, prif lwybrau bysiau a llwybrau ar gyfer y gwasanaethau brys yn cael halen arnynt ymlaen llaw i gadw'r rhwydwaith priffyrdd ar agor. Ni fydd Ffyrdd â Blaenoriaeth Eilaidd megis isffyrdd a ffyrdd ystâd fel arfer yn cael halen arnynt oni bai bod amodau yn ddifrifol ac yn debygol o barhau am sawl diwrnod, ac wedyn dim ond os yw'r adnoddau ar gael ar ôl delio â Ffyrdd Blaenoriaeth Gyntaf.

Mewn amodau eithafol o eira trwm, cyflogir contractwyr preifat ac amaethyddol i helpu i glirio'r eira.

 

end content