Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Microsglodynnu eich ci


Summary (optional)
start content

Mae’n rhaid i chi ofalu:

  • bod eich ci’n cael microsglodyn a’i gofrestru ar gronfa ddata cyn iddo fod yn 8 wythnos oed.
  • bod gan eich ci goler a thag gyda’ch enw a’ch cyfeiriad arno pan fyddwch mewn lle cyhoeddus.

Gofalwch bod y bridiwr wedi microsglodynnu a chofrestru eich ci bach ar gronfa ddata microsglodynnau cymeradwy cyn i chi fynd ag o adref.

Mae Gwefan GOV.UK yn rhoi rhestr o gronfeydd data sy’n bodloni safonau’r llywodraeth.

Pwy all ficrosglodynnu eich ci?

Mae’n rhaid i ficrosglodyn eich ci gael ei osod gan rywun proffesiynol sydd wedi’u hyfforddi i wneud hynny.

Gallwch ofyn i filfeddyg neu ganolfan achub ac ailgartrefu cŵn lleol os gallant ficrosglodynnu eich ci.  Efallai y bydd ffi am wneud hyn.

Beth fydd yn digwydd pan fydd ci yn cael microsglodyn?

  • Mae microsglodyn eich ci yn cynnwys rhif a fydd i’w weld os caiff eich ci ei sganio.
  • Chi sy’n gyfrifol am gadw’r wybodaeth ar ficrosglodyn eich ci’n gyfredol, er enghraifft os ydych yn symud tŷ dylech gysylltu â’r cwmni sy’n cynnal y gronfa ddata y mae’r ci wedi’i gofrestru ag o i ddiweddaru eich manylion.

Darganfod ymhle y mae eich ci wedi’i gofrestru

Gallwch wirio rhif y microsglodyn  os nad ydych yn siŵr ar ba gronfa ddata y mae eich chi wedi’i gofrestru:

  • milfeddyg
  • warden cŵn
  • canolfan achub anifeiliaid

Cosbau

  • Gellir eich dirwyo hyd at £5000 os nad oes gennych goler a thag ar eich ci.
  • Gellir eich dirwyo hyd at £500 os nad yw eich ci wedi’i ficrosglodynnu.
  • Gellir eich dirwyo hyd at £5000 os na ydych yn cadw eich cofnodion yn gyfredol.

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content