Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Cŵn wedi'u canfod


Summary (optional)
start content

Os ydych yn dod o hyd i gi strae:

  • Os oes ganddynt goler a thag a gwybodaeth arno, cysylltwch â’r perchennog.
  • Os nad oes ganddynt dag, neu os na allwch gael gafael ar y perchennog, gallwch roi gwybod i ni.

Ar-lein

Rhoi gwybod am gi strae

Ar y ffôn

I roi gwybod am gi strae, gallwch ein ffonio ni ar:

  • 01492 575222 yn ystod oriau swyddfa (dydd Llun i dydd Gwener, 9am tan 5pm)
  • 0300 123 3079 y tu allan i oriau swyddfa

Dychwelyd/casglu ci strae 

  • Os yw manylion perchennog y ci ar ei goler neu os oes ganddo ficrosglodyn, byddwn yn ei ddychwelyd at ei berchennog lle bynnag bosibl.
  • Os nad oes modd cysylltu â’r perchennog, neu os nad oes gan y ci unrhyw fanylion adnabod na microsglodyn, bydd yn mynd i genelau Nant y Corn (gwefan allanol).


Os nad yw’r ci wedi’i hawlio ymhen saith diwrnod bydd yn cael ei ailgartrefu neu ei ddifa’n ddi-boen.

Ffioedd cŵn wedi’u canfod

Pan fyddwch yn hawlio eich ci bydd yn rhaid i chi dalu ffi am y costau a gawsom ni wrth gasglu eich ci a’i roi mewn cenelau. Mae’r ffi hwn yn cynnwys swm statudol (sy’n cael ei osod gan y Llywodraeth)

  • Ffi statudol:  £75 (gan gynnwys casglu)
  • Ffioedd y cenel:  £15 y dydd fesul ci (codir y ffi llawn hyd yn oes os nad oedd y ci yno am ddiwrnod cyfan)
  • Ffi allan o oriau:  £30 (os yw eich ci yn cael ei ddanfon i’r cenelau y tu allan i’r oriau arferol)

Cyfanswm y ffi am 7 diwrnod yn y cenelau:  £190 (yn cynnwys y ffi statudol)

Efallai hefyd yn bydd yn rhaid i chi dalu ffioedd milfeddyg ychwanegol a ffi am driniaeth y tu allan i’r oriau arferol, os yn berthnasol.

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content