Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Addysg, Plant a Phobl Ifanc Dogfennau Ymgynghoriad Addysg Cynnig i uno Ysgol Babanod Mochdre ac Ysgol Cystennin

Cynnig i uno Ysgol Babanod Mochdre ac Ysgol Cystennin


Summary (optional)
start content

Yn ei gyfarfod ar 23 Ionawr 2024, yn dilyn ystyriaeth ofalus, penderfynodd Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy gadarnhau’r cynnig i uno Ysgol Babanod Mochdre ac Ysgol Cystennin, sy’n golygu y bydd y ddwy ysgol yn dod i ben (cau) ar 31 Awst 2024.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cynnig sefydlu ysgol gymysg cyfrwng Saesneg newydd ar gyfer Mochdre i'w chynnal gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar safleoedd presennol Ysgol Babanod Mochdre ac Ysgol Cystennin, ar gyfer plant 3-11 oed.Bydd y cynnig hwn yn cael ei roi ar waith ar 1 Medi 2024.

Wrth benderfynu ar y cynnig, rhoddodd y Cabinet ystyriaeth i’r ffactorau a ganlyn yn unol â’r Cod Trefniadaeth Ysgolion (11/2018):

  • Ansawdd a safonau mewn addysg
  • Yr angen am leoedd
  • Adnoddau addysg a goblygiadau ariannol eraill

Gwnaethpwyd y penderfyniad yn dilyn cyfnod gwrthwynebu statudol a gynhaliwyd rhwng 7 Tachwedd 2023 a 5 Rhagfyr 2023. Mae’r gwrthwynebiadau a dderbyniwyd ac ymateb yr awdurdod lleol wedi’u crynhoi yn yr adroddiad gwrthwynebiadau a gyflwynwyd i’r Cabinet ar 23 Ionawr 2024.

Yn unol â'r penderfyniad uchod, bydd Ysgol Babanod Mochdre ac Ysgol Cystennin yn cau ar 31 Awst 2024 ac yn cael eu disodli gan un ysgol ar gyfer Mochdre ar ddau safle.

Dogfennau

Hanes yr ymgynghoriad

content

content
end content