Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Ymgynghoriad Symud Canolfan Ymddygiad y Cyfnod Sylfaen - Yr Ymgynhoriad


Summary (optional)
start content

2. Yr Ymgynhoriad

Cynhelir yr ymgynghoriad rhwng 5 Rhagfyr 2022 ac 1.00 pm ar 27 Ionawr 2023.

Nid oes a wnelo’r ymgynghoriad ond â’r cynnig i symud Canolfan Ymddygiad y Cyfnod Sylfaen.

2.1 Ymgyngoreion


Dosberthir y Ddogfen Ymgynghori, yn unol â Chod Trefniadaeth Ysgolion Llywodraeth Cymru, i’r ymgyngoreion canlynol yn ystod y cyfnod ymgynghori statudol:

Rhieni (a darpar rieni lle bo modd), gofalwyr a gwarcheidwaid, ac aelodau staff yr ysgolion hynny y mae’r cynigion yn effeithio arnynt

  • Pennaeth Canolfan Addysg Conwy, i’w dosbarthu ymhellach i rieni, gofalwyr, gwarcheidwaid ac aelodau eraill o staff.
  • Penaethiaid holl Ysgolion Uwchradd eraill Conwy, i’w dosbarthu ymhellach i rieni, gofalwyr a gwarcheidwaid.

Yr awdurdod cynnal neu ddarpar awdurdod cynnal ar gyfer unrhyw ysgol y mae’r cynigion yn debygol o effeithio arni

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy sy’n cyflwyno’r cynnig.

Unrhyw awdurdod lleol arall (gan gynnwys rhai yn Lloegr, lle bo hynny'n briodol) y mae’r cynnig yn debyg o effeithio arnynt gan gynnwys, yng nghyd-destun darpariaeth benodol ar gyfer Anghenion Addysgol Arbennig (AAA), unrhyw awdurdod sy’n lleoli disgyblion gydag AAA yn y Ganolfan neu’n debygol o wneud

  • Cyngor Sir Ddinbych - moderneiddioaddysg@sirddinbych.gov.uk
  • Cyngor Gwynedd - ModerneiddioAddysg@gwynedd.llyw.cymru
  • Cyngor Sir Ynys Môn - ysgolionmon@anglesey.gov.uk

Yr Eglwys yng Nghymru ac Awdurdod Esgobaethol yr Eglwys Gatholig Rufeinig ar gyfer ardal unrhyw ysgol y mae’r cynnig yn debygol o effeithio arni

  • Awdurdod Esgobaeth Llanelwy yr Eglwys yng Nghymru  - jenniedownes@churchinwales.org.uk
  • Esgobaeth Gatholig Rufeinig Wrecsam - primaryeducation@rcdwxm.org.uk

Corff llywodraethu unrhyw ysgol y mae’r cynigion yn berthnasol iddi

  • Pwyllgor Rheoli Canolfan Addysg Conwy.

Corff Llywodraethu unrhyw ysgolion eraill y bydd y cynigion yn debygol o effeithio arnynt ym marn y cynigydd

  • Amherthnasol

Gweinidogion Cymru

  • schoolsmanagementdivision3@gov.wales

Aelodau Cynulliad (AC) Etholaeth a Rhanbarthol ac Aelodau Seneddol (AS) sy’n cynrychioli’r ardal y mae unrhyw ysgol sy’n destun y cynigion yn darparu gwasanaethau ar ei chyfer, neu lle bwriedir hynny

  • Janet Finch Saunders AC - janet.finch-saunders@senedd.wales
  • Llyr Huws Gruffydd AC - llyr.gruffydd@senedd.wales
  • Mark Isherwood AC - mark.isherwood@senedd.wales
  • Darren Millar AC - darren.millar@senedd.wales
  • Sam Rowlands AC - sam.rowlands@senedd.wales
  • Carolyn Thomas AC - carolyn.thomas@senedd.wales
  • Cllr Louise Emery, Gogarth Mostyn ward - cllr.louise.emery@conwy.gov.uk
  • Cllr Mandy Hawkins, Gogarth Mostyn ward - cllr.mandy.hawkins@conwy.gov.uk
  • Cllr Harry Saville, Gogarth Mostyn ward - cllr.harry.saville@conwy.gov.uk

Estyn

  • Owen Evans, Prif Arolydd Addysg a Hyffordiant yng Nghymru - ymholiadau@estyn.llyw.cymru

Undebau Athrawon ac undebau llafur staff sy’n cynrychioli’r athrawon ac aelodau eraill o staff mewn unrhyw ysgol sy’n destun y cynigion hyn

  • NEU - john.owen@neu.org.uk
  • NAHT - owen.rogers@nahtofficials.org.uk
  • NASUWT - secretary.conwy@nasuwt.org.uk
  • UCAC - roger@ucac.cymru
  • UNISON - branchsecretary@unisonconwy.co.uk
  • Unite - simon.ellis@unitetheunion.org
  • GMB - mark.jones@gmb.org.uk
  • ASCL - h.parry@johnbright.uk

Y Consortiwm Addysg Rhanbarthol

  • Arwyn Thomas, Prif Swyddog GwE - arwynthomas@gwegogledd.cymru

Y Comisiynydd Heddlu a Throseddu

  • Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu Gogledd Cymru - OPCC@nthwales.pnn.police.uk

Unrhyw gyngor cymuned a thref yn ardal yr ysgol sy'n destun y cynning hwn

  • Cyngor Tref Llandudno - towncouncil@conwy.gov.uk

Partneriaeth Lleol Cymunedau yn Gyntaf

  • Marianne Jackson, Pennaeth y Gwasanaethau Datblygu Cymunedol - marianne.jackson@conwy.gov.uk

Cyrff Iechyd Perthnasol gyda chysylltiad

  • Dr Hamilton Grantham, Pediatregydd Cymunedol Ymgynhorol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr - hamilton.grantham@wales.nhs.uk

Eraill

  • Holl staff Addysg

2.2 Cyfarfodydd


Gydol y cyfnod ymgynghori bydd Gwasanaeth Cynhwysiad Cymdeithasol Conwy yn cynnal sesiynau galw heibio i drafod y cynigion â staff addysgu a chefnogi, rhieni a gofalwyr ac aelodau o’r cyhoedd.

Bydd y Cabinet yn ystyried yr holl sylwadau a dderbynnir yn ystod y cyfnod ymgynghori statudol hwn cyn i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy benderfynu a ddylid bwrw ymlaen â’r hyn a gynigir ai peidio, ac a ddylid cyhoeddi Hysbysiad Statudol ynglŷn â’r cynnig.

2.3 Ymgynghori â phlant a phobl ifanc


Gwneir trefniadau hefyd i geisio barn y plant a phobl ifanc hynny sy’n mynychu Canolfan Addysg Conwy.  Gwneir hyn drwy Gyngor yr ysgol a chynnal sesiwn neu sesiynau penodol â’r disgyblion yng Nghanolfan Addysg Conwy.

2.4 Sylwadau: cyfeiriad a’r dyddiad cau


Ymatebwch i’r ymgynghoriad drwy lenwi’r ffurflen  ar-lein, neu anfonwch eich ymateb i:

E-bost:  school.modernisation@conwy.gov.uk
Post:  Gwasanaethau Addysg, Bwlch Post 1, Conwy LL30 9GN

Sylwer:  Rhaid i’r holl ymatebion, boed y rheiny wedi’u cyflwyno drwy e-bost neu drwy’r post, gyrraedd y Gwasanaethau Addysg erbyn 13:00 ar 27 Ionawr 2023 fan bellaf

Tudalen nesaf

end content