Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Addysg, Plant a Phobl Ifanc Gwybodaeth i Deuluoedd a Gofal Plant Cyflwyniad i Ofal Plant yn y Cartref (IHC) / Paratoi ar gyfer ymarfer ym maes gwarchod plant (PCP) i ddarparwyr gofal plant yn y cartref

Cyflwyniad i Ofal Plant yn y Cartref (IHC) / Paratoi ar gyfer ymarfer ym maes gwarchod plant (PCP) i ddarparwyr gofal plant yn y cartref


Summary (optional)
start content

Mae gofalwyr plant wedi’u cofrestru yn gweithio yn eu cartrefi eu hunain, gan ofalu am blant pobl eraill ac yn cael eu rheoli a’u harchwylio gan AGC.

Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno gan PACEY. Dyma’r cwrs paratoi sy’n cael ei argymell ar gyfer darpar a gofalwyr plant newydd yng Nghymru ac mae’n cynnwys yr anghenion i nanis.

Cyflwyniad i ofal plant yn y cartref - IHC 

Cyfeirir at yr uned hon fel yr IHC ac mae’n addas i ddarpar nanis a gwarchodwyr plant.    Mae'n rhoi cyflwyniad i ofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant yn y cartref. Mae gan yr  uned y deilliannau dysgu canlynol: 

  • Gofynion deddfwriaeth, polisïau cenedlaethol, canllawiau a fframweithiau 
    rheoleiddio ar gyfer gofal plant yn y cartref  
  • Gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd/gofalwyr ym maes gofal plant yn y cartref 
  • Iechyd a llesiant ym maes gofal plant yn y cartref  
  • Arferion, newidiadau a chyfnodau trawsnewid ym maes gofal plant yn y cartref  
  • Datblygiad cyfannol plant mewn gofal plant yn y cartref  
  • Y Gymraeg a diwylliant Cymru  
  • Ymarfer proffesiynol ym maes gofal plant yn y cartref  


Asesu:
Bydd angen portffolio o dystiolaeth ar gyfer yr uned hon. 

Paratoi ar gyfer ymarfer ym maes gwarchod plant - PCP

Cyfeirir at yr uned hon fel y PCP ac mae’n addas i ddarpar warchodwyr plant yn unig.  Mae cynnig gwybodaeth i gefnogi’u proses o baratoi i gofrestru. Mae gan yr uned y deilliannau dysgu canlynol: 

  • Cofrestru fel gwarchodwr plant yng Nghymru  
  • Ymarfer proffesiynol ym maes gwarchod plant  
  • Iechyd a llesiant mewn lleoliad gwarchod plant 
  • Gwaith cynllunio busnes effeithiol ar gyfer gwasanaeth gwarchod plant  


Asesu:
Trafodaethau proffesiynol yn seiliedig ar bortffolio o waith a gwblheir er mwyn  helpu i gofrestru fel gwarchodwr plant yng Nghymru.

Gwarchod Plant (pdf)

Gwefan Pacey

end content