Mae Gofal Plant a Gwasanaethau wedi cael eu heffeithio gan COVID-19. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Conwy ar 01492 577850 neu dros e-bost ar plant.children@conwy.gov.uk
Mae ein cronfa ddata nawr yn rhan o wefan Dewis Cymru. Gan ddefnyddio’r blwch isod, mae modd i chi chwilio am wasanaethau yn eich ardal ac wedyn cyfyngu eich canlyniadau.
Gallwch hefyd chwilio am wybodaeth ynghylch:
Mae croeso i chi gysylltu â ni’n uniongyrchol:
Yn ogystal â gwybodaeth am ofal plant, mae gennym wybodaeth am lawer o wasanaethau, sefydliadau a gweithgareddau i blant, pobl ifanc a theuluoedd hefyd.
Rhwydwaith Rhieni
- Gallwch hefyd gofrestru â’n Rhwydwaith Rhieni lle byddwn yn anfon gwybodaeth atoch am ddigwyddiadau a gweithgareddau wrth i ni gael gwybod amdanyn nhw.
- Os hoffech ymuno â'r Rhwydwaith Rhieni, llenwch y ffurflen gofrestru ar-lein. Dylai'r ffurflen hon gael ei llenwi gan drigolion Sir Conwy yn unig.
- Os ydych am wybod mwy cyn cofrestru, mae croeso i chi gysylltu â Margaret Driscoll neu Ceinwen Jeffers ar: 01492 577850 neu e-bostiwch plant.children@conwy.gov.uk
Sylwer:
Er bod pob ymdrech wedi’i wneud i sicrhau cywirdeb yr wybodaeth a roddwyd yn y gronfa ddata ar wefan Dewis, ni all Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Conwy fod yn atebol neu fod yn gyfrifol am unrhyw wallau a all fod wedi codi. Gan hynny, argymhellir eich bod yn gwirio’r manylion eich hun bob amser i sicrhau fod gwasanaethau yn ateb eich gofynion. Hefyd ni all Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Conwy argymell nac ardystio unrhyw un o’r darparwyr a restrir.