Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Cynnig Gofal Plant Cymru


Summary (optional)
Gwybodaeth am gymhwysedd a sut i wneud cais am y Cynnig Gofal Plant Cymru.
start content

childcarelogo2018

Bydd ceisiadau ar gyfer plant a anwyd rhwng 01/09/2019 a 31/03/2021 ar agor rŵan. Gwnewch gais drwy’r system Ddigidol Genedlaethol.

Sylwch fod hwn ar gyfer Cynnig Gofal Plant Cymru yn unig. Rhaid gwneud ceisiadau am y grant 10 awr Addysg Blynyddoedd Cynnar yn uniongyrchol i Gyngor Sir Conwy. Am ragor o wybodaeth gweler - Ariannu Addysg Gynnar ar gyfer Plant 3 Oed - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy neu cysylltwch â Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd ar 01492 577850.

Beth yw'r Cynnig Gofal Plant Cymru?

  • Gall plant sy'n gymwys gael yr hawl i hyd at 20 awr o ofal plant sy'n cael ei gyllido gan y Llywodraeth yn ystod tymor yr ysgolyn ychwanegol at y 10 awr o Addysg Feithrin sy'n cael ei ddarparu'n barod.
  • Yn ystod hyd at 9 wythnos o wyliau'r ysgol, gall rhieni dderbyn hyd at 30 awr o ofal plant.
  • Gall rhieni ddewis unrhyw leoliad gofal plant cofrestredig sydd yn addas i’w hamgylchiadau personol a theuluol, boed yn y sir neu’r tu allan, trwy gytuno gyda’r darparwr a’r awdurdod lleol. Nid oes rhaid i’r gofal plant gael ei roi gan yr un darparwr â’r ddarpariaeth Addysg Feithrin.
  • Mae’r Cynnig ar gael o’r tymor ar ôl pen-blwydd eich plentyn yn dair oed tan y mis Medi ar ôl pen-blwydd eich plentyn yn bedair oed pan fydd yn cychwyn yn yr ysgol yn llawn amser.

Mae'ch plentyn yn troi'n 3 rhwng? Gall eich plentyn ddechrau ar y cynnig
 1 Medi a 31 Rhagfyr  Ar ddechrau'r tymor ar neu ar ôl 1 Ionawr
 1 Ionawr a 31 Mawrth  Ar ddechrau'r tymor ar neu ar ôl 1 Ebrill
 1 Ebrill a 31 Awst  Ar ddechrau'r tymor ar neu ar ôl 1 Medi

 

Pwy sy’n gymwys?

I fod yn gymwys am ofal plant am ddim, rhaid i chi fodloni’r meini prawf cymhwysedd isod:

  • Mae eich plentyn yn 3 neu 4 oed ac yn gallu cael mynediad at Addysg Blynyddoedd Cynnar
  • Bod pob rhiant, neu gyplau sy'n cyd-fyw ar yr aelwyd yn gweithio ac yn ennill cyflog sy’n cyfateb i 16 awr o leiaf ar yr isafswm cyflog cenedlaethol neu’r cyflog byw cenedlaethol (ni fydd rhieni'n gymwys os ydynt yn ennill mwy na £100,000 y flwyddyn - trothwy fesul rhiant yw hwn).
  • Bod un rhiant yn gyflogedig / mewn addysg neu hyfforddiant a bod gan un rhiant gyfrifoldebau gofalu sylweddol yn seiliedig ar fudd-daliadau penodol a dderbynnir am ofalu;
  • Bod y ddau riant yn gyflogedig / mewn addysg neu hyfforddiant, ond bod y naill riant a’r llall i ffwrdd o’r gweithle dros dro ar absenoldeb rhieni, mamolaeth, tadolaeth neu fabwysiadu;
  • Bod y ddau riant yn gyflogedig / mewn addysg neu hyfforddiant, ond bod un neu’r ddau riant i ffwrdd o’r gweithle dros dro ar dâl salwch statudol;
  • Bod un rhiant yn gyflogedig / mewn addysg neu hyfforddiant a bod un rhiant yn anabl neu’n analluog ar sail derbyn budd-daliadau penodol (gweler isod);
  • Rhieni mewn addysg a hyfforddiant sydd wedi cofrestru ar gyrsiau Addysg Uwch (AU), israddedig neu ôl-raddedig neu’r rhai sydd wedi cofrestru ar gwrs mewn sefydliadau Addysg Bellach.  Yn y ddau achos, mae’n rhaid i’r cwrs fod o leiaf 10 wythnos o hyd ac fe all fod yn gwrs sy’n cael ei gyflwyno trwy ddysgu o bell;
  • Rhieni maeth a rhieni ar absenoldeb mabwysiadu cyn belled â’u bod yn bodloni’r meini prawf cymhwyso rhieni ac ar yr amod bod gofal plant yn unol â Chynllun Gofal eu plentyn maeth / Cynllun Cefnogi Mabwysiadu. 

Lle bydd un rhiant yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd a'r rhiant arall yn derbyn un o'r budd-daliadau canlynol, bydd y plentyn yn dal i allu manteisio ar y cynnig:

  • Budd-dal analluogrwydd;
  • Lwfans gofalwyr;
  • Lwfans anabledd difrifol;
  • Budd-dal analluogrwydd hirdymor;
  • Lwfans cyflogaeth a chymorth (yn seiliedig ar incwm); neu gredydau yswiriant gwladol ar sail anallu i weithio neu allu cyfyngedig i weithio.

Sylwch: Nid yw gwneud cais yn gwarantu lle gofal plant. Nid yw'r cyllid yn cychwyn tan ar ôl i'ch cais gael ei basio ac mae'n dechrau ar y dyddiad cychwyn a nodir ar eich llythyr cadarnhau.





Sut i wneud cais?

Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf cymhwyso, gallwch ymgeisio nawr.

*Sylwer, gan ddibynnu ar eich amgylchiadau, fe all hawlio 30 awr effeithio ar rai o’r budd-daliadau rydych yn eu cael ar hyn o bryd. Er enghraifft:

  • Yr elfen gofal plant o Gredyd Treth Gwaith
  • Credyd Cynhwysol
  • Gofal plant di-dreth a Thalebau Gofal Plant
  • Budd-dal Tai
  • Gostyngiad Treth y Cyngor

Gwybodaeth: Effaith ar fudd-daliadau (Llywodraeth Cymru)

Mwy o wybodaeth

Gwybodaeth i Rieni a Gofalwyr 

Gwybodaeth i Ddarparwyr Gofal Plant

 

Ydych chi angen help?

Os hoffech chi gael mwy o wybodaeth, angen gwirio eich meini prawf cymhwyster neu eisiau gwybodaeth am Ofal Plant, cysylltwch â:

Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Conwy
end content