Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Addysg, Plant a Phobl Ifanc Gwybodaeth i Deuluoedd a Gofal Plant Sut i ddod yn Warchodwr Plant Cofrestredig neu Nani

Sut i ddod yn Warchodwr Plant Cofrestredig neu Nani


Summary (optional)
start content

Gwarchodwyr Plant

Mae gwarchodwyr plant cofrestredig wedi cymhwyso i ddarparu gofal a chyfleoedd dysgu i blant dan 12 oed yn eu cartrefi eu hunain am fwy na dwy awr y dydd am dâl.

Rhaid i warchodwyr plant fod wedi cofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) i sicrhau eu bod yn gallu darparu amgylchedd diogel, symbylol i’r plant sydd yn eu gofal.  Rhaid iddynt gadw at y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ac maent yn cael eu harchwilio’n rheolaidd.

Mae gwarchodwyr plant yn hunangyflogedig a rhaid iddynt weithio o fewn y cymarebau a osodir yn y Safonau Gofynnol Cenedlaethol i Warchodwyr Plant yng Nghymru (mae hyn yn cynnwys plant y gwarchodwyr eu hunain). Gall gwarchodwyr plant weithio gyda’i gilydd a gallant gyflogi cynorthwyydd.

Mae’n anghyfreithlon gofalu am blant am dâl (arian neu werth arian) os nad ydych wedi cofrestru.

I wybod mwy am ddod yn warchodwr plant, cysylltwch â’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ar 01492 577850 neu anfon e-bost at plant.children@conwy.gov.uk.

Nanis

Cyflogir nani gan deulu i ofalu am blentyn neu blant o hyd at ddau deulu yng nghartref y teulu ac nid oes angen iddynt gofrestru. 

Fodd bynnag, gallai cofrestru â Chynllun Cymeradwyo Darparwyr Gofal Plant yn y Cartref gan Arolygiaeth Gofal Cymru ganiatáu i’r rhieni gymryd mantais o gymorth Llywodraeth y DU â chostau gofal plant.  I gofrestru, rhaid iddynt wneud hyfforddiant gofal plant.

end content