Cyflwynwch eich ffurflen gais erbyn 6 Tachwedd 2023.
Fe gewch chi wybodaeth am eich cais am le yn yr ysgol erbyn 1 Mawrth 2024.
Fe allwch chi hefyd lawrlwytho fersiwn o'r ffurflenni y gellir eu hargraffu drwy glicio yma.
Ceisiadau hwyr
Byddwn yn dyrannu lleoedd yn gyntaf i geisiadau a dderbyniwn erbyn y dyddiad cau. Ni fydd ceisiadau hwyr yn cael eu prosesu nes ein bod wedi prosesu pob cais ar amser, oni bai eich bod yn gallu cyfiawnhau'r oedi.
Gwybodaeth Bwysig
Os ydych chi'n gwneud cais am le yn:
- Ysgol Bryn Elian,
- Ysgol Eirias, neu
- Ysgol Emrys ap Iwan
yn ogystal â llenwi’r Ffurflen Derbyniadau i Ysgolion, bydd angen i chi hefyd gysylltu â’ch dewis o ysgol i gael ffurflen gais ar wahân. Efallai y bydd y ffurflen hon hefyd ar gael gan ysgol bresennol eich plentyn.
Dyddiadau Pwysig
Erbyn 4 Medi 2023
- Bydd ffurflenni cais ysgolion yn cael eu cyhoeddi a cheisiadau ar-lein yn agor
- Mae ffurflenni y gellir eu hargraffu ar gael uchod a gellir postio copïau caled ar gais, drwy gysylltu â'r Gwasanaethau Addysg ar 01492 575031
- Mae llyfrynnau ar sut i wneud cais ar gael uchod
Erbyn 6 Tachwedd 2023
- Dyddiad cau ar gyfer pob cais i Ysgol Uwchradd
Erbyn 1 Mawrth 2024
- Bydd llythyrau yn cynnig neu'n gwrthod lle yn cael eu hanfon allan
Tymor y Gwanwyn 2024
- Trefniadau i drafod ceisiadau a wrthodwyd gydag Uwch Swyddogion Addysg
- Gwneud cais i ysgol arall
- Yr ysgolion yn trefnu diwrnodau cynefino a chyfarfodydd rhieni i baratoi ar gyfer cychwyn ym mis Medi.