Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Cymdeithas Llywodraethwyr Conwy


Summary (optional)
start content

Mae Cymdeithas Llywodraethwyr Conwy yn cynnwys cynrychiolydd a enwebwyd o bob corff llywodraethu. Er mai dim ond un bleidlais sydd gan bob corff llywodraethu ar faterion sy’n ymwneud â llywodraethu ysgol a’r Gymdeithas, mae croeso i gyrff llywodraethu anfon mwy nag un llywodraethwr i’r cyfarfod. Mae Awdurdod Lleol Conwy’n darparu gwasanaethau gweinyddol i'r Gymdeithas.

Ceir rhagor o wybodaeth am Cymdeithas Llywodraethwyr Conwy yma: Pamffled CLlC (PDF)

Rydym yn awyddus i sicrhau yr hyrwyddir arferion gweithio ar y cyd rhwng yr Awdurdod Lleol a chyrff llywodraethu er mwyn i ni wella deilliannau i blant a phobl ifanc trwy Gonwy gyda'n gilydd.

Am fanylion pellach, gan gynnwys dyddiadau cyfarfodydd, cysylltwch â llywodraethwyr@conwy.gov.uk

end content