Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Addysg, Plant a Phobl Ifanc Llywodraethwyr Ysgolion Sut i wneud cais i fod yn llywodraethwr

Sut i wneud cais i fod yn llywodraethwr


Summary (optional)
start content

Cyn i chi wneud cais, ofynnwn i chi ystyried yn ofalus disgwyliadau’r rôl, y sgiliau sydd ei angen a hefyd os oes gennych yr amser i roi.

Rhiant Lywodraethwyr

Rhaid i holl gyrff llywodraethu ysgolion gynnwys rhiant lywodraethwyr sydd wedi ei ethol yn flynyddol gan rieni disgyblion sy’n gofrestredig yn yr ysgol.  Gellir cael gwybodaeth bellach yn uniongyrchol o’r ysgol.

Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol

Dylai unigolion sy’n cael eu henwebu fel Llywodraethwyr Awdurdod Lleol fod yn gallu dangos:

  • Ymrwymiad a diddordeb mewn addysg
  • Dymuniad i gynorthwyo’r ysgol dan sylw
  • Parodrwydd i wasanaethu’r gymuned leol
  • Sgiliau a phrofiad a fydd yn cynorthwyo gwaith yr ysgol
  • Gallu i weithio fel aelod o dîm
  • Doethineb a gallu cadw cyfrinachedd
  • Parodrwydd i roi’r amser i gyflawni eu hymrwymiadau i’r Corff Llywodraethu
  • Empathi ag amrywiaeth ieithyddol a diwylliannol y Fwrdeistref Sirol yn arbennig o ran cefnogi’r iaith Gymraeg
  • Parodrwydd i gefnogi dyheadau a bwriad strategol y Fwrdeistref Sirol
  • Ymrwymiad at fod yn bresennol mewn hyfforddiant i lywodraethwyr


Yn ychwanegol, ni ddylai enwebiadau ar gyfer Llywodraethwyr Awdurdod Lleol:

  • Yn fwriadol fod wedi eu gwahardd rhag gwasanaethu fel llywodraethwr ysgol
  • Fod yn gweithio i’r ysgol

Os hoffech gael eich ystyried am gael eich penodi fel Llywodraethwr Awdurdod Lleol cliciwch y linc isod

 

end content