Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Addysg, Plant a Phobl Ifanc Ysgolion Bwyd mewn Ysgolion Llywodraeth Cymru - Cynllun Brecwast am Ddim

Llywodraeth Cymru - Cynllun Brecwast am Ddim


Summary (optional)
Mae'r cynllun brecwast am ddim yn rhoi cyfle i blant cynradd gael brecwast iach am ddim yn yr ysgol bob dydd. 
start content

Mae tystiolaeth yn dangos bod plant sy'n cael cyfle i fwyta brecwast iach a maethlon cyn dechrau'r diwrnod ysgol yn hapusach ac yn fwy tebygol o gyflawni eu potensial addysgol llawn. Mae'r cynllun brecwast am ddim yn rhoi cyfle i blant cynradd gael brecwast iach am ddim yn yr ysgol bob dydd.

Mae ysgolion Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cymryd rhan yn y cynllun hwn, ac wedi bod yn cynnig brecwast mewn ysgolion cynradd ers 2005.

Mae'r rhestr isod yn nodi'r ysgolion sy'n rhan o'r cynllun ar hyn o bryd:

Awel y Mynydd  Llandrillo yn Rhos Babanod
Babanod Mochdre Llandrillo yn Rhos Iau
Betws-y-coed Llanddulas
Y Bendigaid William Davies Babanod Llanfairfechan
Bod Alaw Llanfairtalhaiarn
Bro Aled  Llangelynnin
Bro Cernyw Maes Owen
Bro Gwydir Morfa Rhianedd
Bodafon Nant y Groes
Capelulo Pant-y-Rhedyn
Capel Garmon Pencae
Cerrigydrudion Penmachno
Craig y Don Pentrefoelas
Cynfran Pen y Bryn
Cystennin Porth y Felin
Deganwy San Siôr
Dolwyddelan St Elfod Juniors
Dyffryn yr Enfys St George
Eglwysbach St Joseph
Ffordd Dyffryn Sŵn y Don
Glan Conwy Tudno
Glan Gele T Gwyn Jones
Glanwydden Y Ddraig
Gogarth Ysbyty Ifan
Iau Hen Golwyn Y Plas
Llanddoged Y Foryd
Llannefydd  


Mae astudiaethau yn dangos bod brecwast iach yn gwella canolbwyntio, ymddygiad a phresenoldeb disgyblion. Mae brecwast ar gael yn y bore cyn i'r ysgol gychwyn fel y gall plant fwynhau'r agwedd gymdeithasol ar fwyta gyda'i gilydd wrth gael eu goruchwylio, ac yna maent yn mynd i'r ysgol, ar amser, yn barod i gychwyn eu diwrnod!

Cysylltwch â phennaeth ysgol eich plentyn os bydd gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â'r cynllun brecwast.

Bwydlen Brecwast.

end content