Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Diogelwch Bwyd Rhoi wybod am faterion hylendid bwyd

Rhoi wybod am faterion hylendid bwyd


Summary (optional)
Os oes gennych gŵyn am unrhyw fwydydd neu ddiodydd rydych chi wedi’u prynu, gallwch gwyno i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy os ydych chi wedi prynu'r bwyd yn yr ardal. Neu os ydych yn fusnes, gallwch roi gwybod am broblem i ni.
start content

Rydym yn delio â materion hylendid bwyd ym Mwrdeistref Conwy. Ni allwn ddelio â chwynion dienw, ond bydd unrhyw fanylion personol gennych yn aros yn gyfrinachol.

 

Cyn i chi wneud cwyn

Mewn llawer o achosion, mae modd datrys eich cwyn trwy drafod y mater gyda'r siop, yr adeilad bwyd ac ati. Yn gyffredinol, mae busnesau’n pryderu eich bod wedi dod o hyd i broblem a byddant yn ceisio eu gorau i ddatrys y mater. Rydym yn argymell hwn fel eich cam gweithredu cyntaf, yn enwedig gydag achosion o arferion gwael fel pobl sy’n trin bwyd yn ysmygu mewn adeiladau bwyd.

Beth ddylwn i roi gwybod amdanynt?

Byddwn ond yn ymchwilio i faterion diogelwch bwyd sy'n peri risg sylweddol i iechyd y cyhoedd.

  • Gweld llygod mawr, llygod, chwilod du a phlâu bwyd eraill mewn adeiladau bwyd.
  • Arferion trin bwyd gwael sy'n arwain at halogi bwyd sylweddol. Er enghraifft, efallai y byddwch yn gweld staff yn trin cynnyrch cig amrwd a bwydydd sy’n barod i'w bwyta heb olchi dwylo yn y canol.
  • Lefelau gwael o lendid strwythurol mewn ceginau ac ystafelloedd paratoi.

Beth nad oes angen i mi roi gwybod amdanynt?

Peidiwch â rhoi gwybod am gwynion risg isel sy'n cyflwyno ychydig neu ddim risg i iechyd y cyhoedd. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Cludfwyd sydd ddim ar y tymheredd cywir.
  • Mân gwynion o gyllyll a ffyrc neu wydrau budron.
  • Problemau gyda morgrug mewn adeilad bwyd.
  • Siopau’n gwerthu bwyd ar ôl y dyddiad y mae’r cynnyrch ar ei orau. Sut i roi gwybod am fater hylendid mewn adeilad bwyd

Cysylltwch â thîm diogelwch bwyd Conwy am gyngor 

Beth sy'n digwydd nesaf?

Byddwn yn ymateb i gwynion hylendid yn seiliedig ar y risg i ddiogelwch bwyd. Byddwn hefyd yn ystyried hanes blaenorol yr adeilad ac unrhyw gwynion blaenorol, cydymffurfiad â deddfwriaeth a nodwyd ar arolygiadau blaenorol, a'r lefel o hyder sydd gennym yn y gweithredwr busnes bwyd.

Os yw'r gŵyn yn cyfiawnhau arolygiad, byddwn yn canolbwyntio ar y meysydd o bryder a allai gynnwys gwirio arferion, archwilio cyflwr yr ystafelloedd bwyd, cofnodi tymheredd a gwirio bod y gwaith papur yn gyfredol.

Pwrpas yr arolygiad yw gwella safonau yn yr adeilad bwyd ac atal problemau rhag digwydd eto.

Bydd y swyddog ymchwilio yn eich hysbysu o'r canfyddiadau a’ch hysbysu o unrhyw gamau pellach a fydd yn cael eu cymryd.

end content