Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Diogelwch Bwyd Sgoriau Hylendid Bwyd

Sgoriau Hylendid Bwyd


Summary (optional)
Dysgwch fwy am beth mae sgoriau hylendid bwyd yn ei olygu, lle gallwch chi eu gweld nhw a sut y gallant eich helpu chi.
start content

Gwybodaeth am Y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yng Nghymru

Mae bellach yn ofyniad cyfreithiol i fusnesau yng Nghymru ddangos eu sgôr hylendid bwyd.  Daeth Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) i rym fis Tachwedd 2013, gan ddisodli’r cynllun gwirfoddol (sy'n cael ei ddefnyddio o hyd yn Lloegr).

Mae'r cynllun wedi’i gynllunio i’ch helpu chi i ddewis ble i fwyta allan neu i siopa am fwyd, trwy ddarparu gwybodaeth am safonau hylendid mewn busnesau bwyd fel bwytai, tafarndai, caffis, siopau bwyd i fynd, gwestai, yn ogystal ag archfarchnadoedd a siopau bwyd eraill.

Sut mae'r sgoriau'n cael eu cyfrifo?

Mae pob busnes yn cael sgôr yn dilyn archwiliad gan swyddog diogelwch bwyd. Mae hwn yn seiliedig ar sut mae'r busnes yn bodloni gofynion y gyfraith hylendid bwyd ar y pryd. Mae'r asesiad wedi’i seilio ar ystyriaeth o'r tair elfen ganlynol:

  • pa mor lanwaith yw’r dull o drin y bwyd- paratoi bwyd yn ddiogel, coginio, aildwymo, oeri a storio 
  • cyflwr strwythur yr eiddo - glanweithdra, angen am atgyweiriadau, cynllun, goleuo, awyru a chyfleusterau eraill
  • sut mae'r busnes yn rheoli'r hyn mae'n ei wneud i sicrhau bod bwyd yn ddiogel, er mwyn i’r swyddog fod yn hyderus y bydd safonau’n cael eu cynnal yn y dyfodol.

Mae busnesau yn yr ardal yn cael eu sgorio ar raddfa o 0 i 5, gyda 0 yn golygu 'angen gwella ar frys' a’r sgôr uchaf o 5 yn golygu 'da iawn'.

Felly p’un ai ydych chi’n mynd allan am bryd o fwyd arbennig, yn bwyta yn y siop pysgod a sglodion leol, yn mwynhau brechdanau ar lan y môr neu’n rhoi cynnig ar ddanteithion yn y deli lleol, gwnewch yn siŵr eich bod yn cael golwg ar y sgôr hylendid yn gyntaf.

Ble fydd y sgôr hylendid bwyd yn cael ei ddangos?

Chwiliwch am sticer hylendid bwyd gwyrdd a du sy’n dangos eu sgôr. Dylai hwn fod wedi’i osod mewn lle amlwg fel y drws ffrynt neu’r ffenestr – ac ym mhob mynedfa i gwsmeriaid. Rhaid i fusnes hefyd roi gwybodaeth am eu sgôr ar lafar os bydd rhywun yn eu holi am hyn.

Gallwch fynd i gael golwg ar sgoriau busnesau yng Nghonwy ar lein.

Beth os nad yw busnes yn dangos eu sgôr?

Os na allwch chi weld sticer, neu os ydych chi’n meddwl bod busnes yn dangos y sgôr anghywir, gadewch i ni wybod.

Nodwch nad yw’r sgôr a roddir i fusnes bwyd yn adlewyrchu ansawdd y bwyd na safon y gwasanaeth i gwsmeriaid.

Cwestiynau cyffredin am y cynllun sgorio hylendid bwyd.

end content