Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Tai Cartrefi Gwag Y Sefyllfa yng Nghonwy

Y Sefyllfa yng Nghonwy


Summary (optional)
start content

Ar unrhyw adeg, mae oddeutu 1,500 o eiddo preifat sydd wedi bod yn wag am 6 mis neu fwy yn sir Conwy.  Er y bydd llawer o’r rhain yn dod yn ôl i ddefnydd yn naturiol, bydd rhai yn parhau’n wag am gyfnodau hirach am nifer o resymau gwahanol.  Gall eiddo gwag fynd i edrych yn flêr yn gyflym a denu problemau a all achosi problemau i gymdogion a’r gymuned leol.

Cost cartref gwag

Sawl blwyddyn yn ôl, cyfrifodd Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig y gall eiddo gwag ar gyfartaledd gostio cymaint â £8250 y flwyddyn i’r perchennog.   Mae hyn yn cynnwys pethau fel colled rhent, dirywiad, fandaliaeth a chostau yswiriant a diogelwch. Yng Nghonwy, codir premiwm Treth y Cyngor o 50% ar eiddo sydd wedi bod yn wag am dros 6 mis (ac eithrio lle mae’n gymwys am eithriad treth y cyngor).  Mae’r premiwm hwn ar ben y treth cyngor arferol a godir.

Sut y gallwn helpu

Mae ein Cynllun Eiddo Gwag wedi bod ar waith ers 2008 ac yn 2021 bu i ni ymestyn y gwasanaeth.   Rydym wedi cynyddu ein gwaith marchnata, staffio a chyfathrebu bellach i geisio cysylltu â’r gymuned, perchnogion eiddo gwag, landlordiaid a phobl sy’n prynu am y tro cyntaf, i roi cyngor a datrysiadau i helpu i ddod â’r eiddo gwag hirdymor hyn yn ôl i ddefnydd.

I ganfod pa gymorth sydd ar gael i’ch helpu rhoi defnydd newydd i’ch eiddo gwag, darparwch eich manylion isod:

Os ydych eisiau dweud wrthym am gartref gwag, neu drafod opsiynau ar gyfer eich eiddo gwag, cysylltwch â’r Swyddog Cartrefi Gwag:

  • Rhif Ffôn: 01492 574235
  • E-bost: taigwag@conwy.gov.uk
  • Ysgrifennwch atom: Y Strategaeth Tai Blwch Post 1, Conwy, LL30 9GL
end content