Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Tai Digartrefedd A wyf yn ddigartref yn fwriadol?

A wyf yn ddigartref yn fwriadol?


Summary (optional)
start content

Rhaid cael gwybod pam eich bod yn ddigartref ac os ydych yn ddigartref yn fwriadol ai peidio. Efallai eich bod yn fwriadol ddigartref os ydych wedi colli eich llety oherwydd eich gweithredoedd, er enghraifft os:

  • Ydych wedi gwneud rhywbeth yn fwriadol, neu wedi methu â gwneud rhywbeth yr oeddech yn gwybod a fyddai’n golygu eich bod yn colli eich cartref
  • Ydych yn dewis gadael llety y gallech fod wedi aros ynddo
  • Ydych wedi “trefnu" i fod yn ddigartref er mwyn i chi allu gwneud cais digartrefedd

Gallech fod yn ddigartref yn fwriadol, er enghraifft os:

  • Na wnaethoch chi dalu eich rhent a’ch bod yn gallu ei fforddio
  • Wnaethoch chi golli eich cartref o ganlyniad i ymddygiad gwrth-gymdeithasol
  • Nad oeddech chi’n cymryd y cyngor a roddwyd i chi er mwyn eich atal rhag dod yn ddigartref

Ni fyddech yn cael eich gweld i fod yn fwriadol ddigartref os:

  • Nad oedd yn rhesymol i chi aros yn eich cartref
  • Oeddech chi wedi gadael oherwydd trais neu fygythiad o drais
  • Ydych wedi colli eich cartref oherwydd ôl-ddyledion rhent neu forgais sydd wedi mynd yn fwy a mwy, a hynny heb fod yn unrhyw fai arnoch chi
  • Oeddech wedi colli eich cartref o ganlyniad i rhywbeth wnaeth rhywun arall a’ch bod chi’n gwybod dim am y peth

Os byddwn yn penderfynu eich bod yn ddigartref yn fwriadol a’ch bod mewn angen blaenoriaethol yna mae’n ddyletswydd gyfreithiol arnom i ddarparu llety dros dro am gyfnod byr o amser yn unig fel y gallwch ddod o hyd i rywle arall. Bydd eich Swyddog Atal Digartrefedd yn parhau i weithio gyda chi i ddod o hyd i lety.

Hysbysiad Cyhoeddus 2022 (Ffeil PDF)
Hysbysiad Cyhoeddus 2019 (Ffeil PDF)

  • Rhif ffôn: 0300 456 9545 
  • Cyfeiriad e-bost:datrysiadautai@conwy.gov.uk
  • Oriau agor: Os ydych chi’n ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref, cysylltwch â ni dydd Llun i dydd Iau - 8:45am i 5:15pm, dydd Gwener - 8:45am i 4:45pm.
  • Rhif Cyswllt Mewn Argyfwng y Tu Allan i Oriau: 0300 1233079 

 

 

end content