Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Tai Digartrefedd Beth fydd yn digwydd nesaf?

Beth fydd yn digwydd nesaf?


Summary (optional)
start content

Beth nesaf?

Bydd eich Swyddog Atal Digartrefedd yn ystyried y dyletswyddau canlynol:

  1. Adran 62 Dyma’n dyletswydd i asesu eich anghenion tai – Bydd yr asesiad hwn yn cadarnhau a ydych yn gymwys ac a ydych yn debygol o fod yn ddigartref neu dan fygythiad o fod yn ddigartref o fewn 56 diwrnod. Fe fyddwn yn siarad â chi ynglŷn â pham yr ydych chi’n ddigartref, unrhyw anghenion cymorth sydd gennych chi neu’r teulu, a beth hoffech chi iddo ddigwydd. Mae'r asesiad yn ystyried achos y digartrefedd, unrhyw anghenion cymorth sydd gennych chi neu aelod o’r teulu a'r canlyniad sydd ei eisiau arnoch. Bydd yr asesiad hwn yn eich cynorthwyo chi a’r swyddog i ystyried a chytuno ar gamau rhesymol i atal neu leihau digartrefedd. Dyma eich Cynllun Tai Personol.
  2. Adran 66Dyma’n dyletswydd i atal digartrefedd – Bydd camau gweithredu ar eich Cynllun Tai Personol yn cael ei wneud gennych chi a’ch Swyddog Atal Digartrefedd er mwyn eich atal rhag mynd yn ddigartref. Gallwn ddod â’r ddyletswydd hon i ben am nifer o resymau, gan gynnwys: os nad ydych dan fygythiad o ddigartrefedd bellach, eich bod yn ddigartref nawr neu eich bod wedi methu â chydweithredu gyda’r cynllun tai personol a gytunwyd i atal digartrefedd.
  3. Adran 73dyma’n dyletswydd i liniaru ar eich digartrefedd - os ydych yn ddigartref nawr, neu os nad yw’r hyn a wnaed i atal digartrefedd wedi gweithio, byddwn yn dal i weithio gyda chi am hyd at 56 diwrnod i gynorthwyo i atal eich digartrefedd. Gall hyn gynnwys darparu llety mewn argyfwng. Bydd hynny’n dibynnu ar eich amgylchiadau unigol. Mae nifer o ddulliau i gyflawni'r ddyletswydd hon, gan gynnwys; fod popeth sy’n bosib wedi’i wneud, nid ydych yn ddigartref bellach, eich bod wedi methu â chydweithredu gyda’r cynllun tai personol a gytunwyd i liniaru ar eich digartrefedd.
  4. Adran 68Dyma’n dyletswydd i ddarparu llety dros dro i’r rhai hynny sy'n gymwys, yn ddigartref ac sydd ag angen blaenoriaeth ymddangosiadol am dai.
  5. Adran 75Dyma’n dyletswydd i sicrhau llety ar eich cyfer – hon yw ein dyletswydd derfynol ac absoliwt ar gyfer ymgeiswyr sy'n gymwys, yn ddigartref, sydd ag angen blaenoriaeth am dai ac yn ddigartref yn anfwriadol ac â chysylltiad lleol â Chonwy.

Beth os ydw i'n anghytuno â'ch penderfyniad?

Os ydych yn anghytuno â'r penderfyniad sydd wedi’i wneud, neu addasrwydd y llety a gynigir i chi, mae gennych hawl i ofyn am adolygiad. Bydd rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut i ofyn am adolygiad yn cael ei hanfon atoch gyda'ch llythyr penderfyniad. Bydd angen i chi anfon eich cais o fewn 21 diwrnod ar ôl i chi dderbyn eich llythyr penderfyniad, neu’ch llythyr yn cynnig llety. Bydd yr adolygiad yn cael ei gynnal gan berson annibynnol a fydd mewn rôl uwch na'r sawl sy'n gwneud y penderfyniad gwreiddiol ac sydd heb fod yn rhan o’r penderfyniad gwreiddiol ar eich achos.

Bydd penderfyniad yn cael ei wneud fel arfer o fewn 8 wythnos i ddyddiad y cais am adolygiad, ond, rhagwelir y byddai penderfyniad yn cael ei wneud cyn hyn. Byddwch chi, neu gynrychiolydd ar eich rhan, yn cael gwahoddiad i ddarparu unrhyw wybodaeth ychwanegol neu dystiolaeth bellach yr ydych yn dymuno i'r swyddog adolygu eu hystyried.

Byddwch yn cael gwybod am y penderfyniad yn ysgrifenedig.

 Sut i wneud cais am ganllaw adolygiad

  • Rhif ffôn: 0300 456 9545
  • Cyfeiriad e-bost: datrysiadautai@conwy.gov.uk
  • Oriau agor: Os ydych chi’n ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref, cysylltwch â ni dydd Llun i dydd Iau - 8:45am i 5:15pm, dydd Gwener - 8:45am i 4:45pm.
  • Rhif Cyswllt Mewn Argyfwng y Tu Allan i Oriau: 0300 1233079

 

end content