Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Addasiadau i'r Anabl


Summary (optional)
Os oes gennych chi anabledd, addasiad yw’r enw a roddir ar newid a wneir neu gyfarpar a osodir i’w gwneud yn haws ac yn fwy diogel i chi aros yn eich cartref eich hun. Mae addasiadau’n amrywio yn ôl anghenion y person, o ganllaw cydio syml neu gymorth i fynd i mewn ac allan o’r bath, i ychwanegu mwy o le at eich cartref.
start content

Beth yw Addasu Cyfleusterau i’r Anabl?

  • Mae addasiadau’n amrywio yn ôl anghenion y person, o ganllaw cydio syml neu gymorth i fynd i mewn ac allan o’r bath, i ychwanegu mwy o le at eich cartref (ond dim ond pan fo angen y lle ychwanegol hwn i fodloni anghenion aelod o’r aelwyd sydd ag anabledd).
  • Mewn nifer o achosion, gall y Cyngor helpu deiliaid tai cymwys gyda chost addasiad, ond dim ond pan fo Therapydd Galwedigaethol wedi cytuno ar yr angen.
  • Mae addasiad tai yn addasiad ffisegol i’ch cartref sydd yn eich helpu chi i fynd i mewn ac allan o’ch cartref, yn gwella sut rydych chi’n symud o gwmpas eich cartref ac sydd yn eich galluogi chi i gael mynediad diogel at gyfleusterau hanfodol ym mhrif ardaloedd eich cartref
  • Mae’n rhaid i addasiad fod yn newid sylweddol i’r cartref. Nid yw’r broses yn cynnwys atgyweiriadau na gwaith cynnal a chadw

Mae yna dri math o addasiad; addasiad bychan, addasiad canolig ac addasiad mawr. 

  • Enghreifftiau o Addasiadau Bychan: rheiliau gafael, rheiliau ffon, sêff i ddal goriadau, golau ychwanegol
  • Mae enghreifftiau o Addasiadau Canolig yn cynnwys: lifft grisiau, cawod y gellir cerdded i mewn iddi, ystafell wlyb, gosod ramp
  • Mae enghreifftiau o Addasiadau Mawr yn cynnwys: estyniad, lledu drysau, lifft drwy’r llawr neu amryw o addasiadau ‘canolig’

Beth yw Grant Addasu Cyfleusterau i’r Anabl?

  • Mae’r Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl yn fath o gymorth ariannol a ddefnyddir i helpu pobl i addasu eu cartrefi. Mae rhai mathau o grantiau yn orfodol a chânt eu cwmpasu gan ddeddfwriaeth a nodir yn Neddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996
  • Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod cyfyngiad ar y Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl gorfodol, sef £36,000. Dyma’r swm mwyaf a ellir ei ddyfarnu, ond bydd pob cais yn cael ei asesu yn ôl eu teilyngdod. Gellir hefyd ei ostwng dan amgylchiadau lle mae disgwyl i’r ymgeisydd gyfrannu tuag at gost y gwaith
  • Weithiau bydd angen addasiadau eraill nad ydynt yn gymwys ar gyfer cyllid grant. Mae polisïau yn amrywio o Gyngor i Gyngor ond, yng Nghonwy, gellir defnyddio’r Cymorth Cyfleusterau i Bobl Anabl Dewisol i dalu am eitemau sy’n angenrheidiol i sicrhau bod y gwaith addasu yn diwallu anghenion yr unigolyn anabl yn llawn

Gellir dyfarnu’r Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl ar gyfer amrywiaeth o waith addasu, yn cynnwys yr enghreifftiau yma:

  • Gosod lifftiau grisiau a theclynnau codi i sicrhau bod yr unigolyn anabl yn gallu defnyddio’r ddau lawr
  • Addasu ystafelloedd ymolchi
  • Rampiau a chanllaw tu mewn a thu allan, gan wella mynediad i ac o’r cartref 
  • Newid ceginau i sicrhau bod yr unigolyn anabl yn gallu coginio a pharatoi bwyd
  • Gwella neu ddarparu system wresogi yn y cartref os oes angen penodol o ran iechyd 

Dyma ychydig o enghreifftiau o waith a ellir talu amdano yn defnyddio Cymorth Cyfleusterau i Bobl Anabl Dewisol:

  • Addasiadau i ddarparu cyfleusterau triniaeth angenrheidiol
  • Addasiadau i alluogi person ag anableddau i weithio o’r cartref
  • Man storio cadair olwyn.

I ddysgu mwy neu i wneud cais, cysylltwch ag Un Pwynt Mynediad.

Pwy sy’n gallu gwneud cais am Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl / Cymorth Cyfleusterau i Bobl Anabl Dewisol?

Gall y canlynol wneud cais am Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl:

  • Berchennog Tŷ
  • Tenant yn rhentu gan landlord preifat
  • Preswylydd cartref parc
  • Yn byw ar gwch preswyl

Gall gwahanol drefniadau ariannu fod yn gymwys i denantiaid Cymdeithasau Tai. Os ydych chi’n denant Cymdeithas Dai, cysylltwch â’ch landlord am ragor o wybodaeth.

Oes angen cyfrannu at gost y gwaith addasu?

  • Yn ôl y gyfraith, mae pawb sy’n gwneud cais am Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl yn gorfod cael asesiad ariannol. Caiff yr asesiad ei gynnal ar yr ymgeisydd a’i briod a’i ddefnyddio i gyfrifo faint y mae’n rhaid i’r ymgeisydd cyfrannu at gost y gwaith, os o gwbl. Dan newidiadau newydd Llywodraeth Cymru, gall rhai addasiadau gael eu heithrio rhag bod yn destun asesiad ariannol
  • Os yw’r gwaith addasu ar gyfer plentyn ag anabledd ni fydd asesiad ariannol yn cael ei gynnal, a bydd y Cyngor yn talu am unrhyw waith addasu a ystyrir yn angenrheidiol ac yn briodol
  • Yn dibynnu ar gost y gwaith, efallai y bydd pridiant yn cael ei roi ar eich eiddo

Sut mae proses y Grant Cyfleusterau i'r Anabl yn gweithio? 

  • Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd gwneud gweithgareddau bob dydd o amgylch y tŷ, dylech gysylltu â’n tîm Un Pwynt Mynediad
  • Byddant yn gofyn nifer o gwestiynau i chi ac yn penderfynu a ddylid eich atgyfeirio at y Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol
  • Bydd therapydd galwedigaethol yn ymweld â chi yn eich cartref i gynnal asesiad. Yn benodol maen nhw eisiau gwybod am natur eich cyflwr, y problemau corfforol sydd gennych chi a gwybodaeth am anghenion eich teulu a/neu’ch gofalwyr
  • Os gellir diwallu eich anghenion gyda darn syml o gyfarpar (e.e. ffrâm gerdded neu sedd arbennig yn y bath), bydd y Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol yn ceisio darparu hynny i chi cyn gynted â phosibl
  • Os nad oes modd diwallu eich anghenion gyda chyfarpar o’r fath, efallai bydd y Therapydd Galwedigaethol yn trefnu bod mân addasiadau fel gosod canllaw, yn cael eu gwneud
  • Os nad oes modd diwallu’r anghenion gyda chyfarpar neu fân addasiadau, bydd atgyfeiriad yn cael ei wneud at y Tîm Gwelliannau Tai. Bydd staff Gwelliannau Tai yn cynnal prawf modd (asesiad ariannol) i gyfrifo unrhyw gyfraniad posibl y dylech chi ei wneud tuag at gost y gwaith addasu. Ni fydd prawf modd yn cael ei gynnal os ydych chi’n derbyn budd-daliadau perthnasol – byddwn yn egluro hyn i chi yn ystod y broses
  • Os ydych chi’n penderfynu bwrw ymlaen â’r gwaith, bydd Syrfëwr Technegol yn cael ei neilltuo i’ch achos a fydd yn trefnu ymweld â’ch cartref i asesu’ch eiddo i nodi’r ffordd fwyaf rhesymol ac ymarferol i ddiwallu’ch anghenion
  • Y cynigion a lunnir fydd y cynigion y bydd Conwy yn eu cefnogi a’u hariannu, ac fe allant fod yn wahanol i’r gwaith y mae’r ymgeisydd wedi meddwl amdano. Does dim rhaid i’r ymgeisydd dderbyn y cynigion a gyflwynir gan y Syrfëwr Technegol a’r Therapydd Galwedigaethol, ond byddai unrhyw gynllun gwahanol fwy na thebyg yn gorfod cael ei ariannu’n breifat
  • Ar ôl cytuno ar y cynigion, bydd y Syrfëwr Technegol yn creu dyluniadau ac atodlen waith ac yn gofyn am ddyfynbrisiau
  • Ar ôl gwneud hyn, bydd unrhyw gyfraniad sydd angen ei wneud yn sgil yr asesiad ariannol yn cael ei dalu i’r Adran Gwelliannau Tai ar y pwynt hwn. Ar ôl talu, gellir cymeradwyo’r grant ac anfon awdurdodiad at y contractwr a ddewiswyd
  • Pan fydd y gwaith yn dechrau bydd y Syrfëwr Technegol yn goruchwylio’r gwaith tan y bydd wedi’i gwblhau i’ch boddhad
  • Ar ôl i’r gwaith addasu gael ei wneud byddwn yn anfon Holiadur Boddhad Cwsmer atoch chi a fydd yn ein helpu ni i fonitro ansawdd y gwasanaeth a ddarparwyd gennym ni

Sut ydw i’n cael cymorth y Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion?

Ydych chi’n cael trafferth symud o gwmpas a mynd i mewn ac allan o’ch cartref? Oes arnoch chi angen addasiadau yn eich cartref er mwyn diwallu eich anghenion penodol?Os felly, llenwch y ffurflen gais ar-lein isod. Bydd aelod o'r tîm Un Pwynt Mynediad yn cysylltu â chi i drafod pethau ymhellach.

Byddant yn gofyn nifer o gwestiynau i chi ac yn penderfynu a ddylid eich atgyfeirio at y Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol.

Treth y Cyngor

  • Os ydych yn anabl a bod eich cartref wedi'i addasu, efallai byddwch yn deilwng i gael gostyngiad ar eich treth y cyngor. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch ag adran Treth Y Cyngor.

Diogelu Data

  • Byddwn yn cadw unrhyw wybodaeth a rowch i ni yn gyfrinachol. Mae gennych hawl i weld y wybodaeth sydd gennym amdanoch.

Mae rhagor o wybodaeth am y broses addasu ar gael:

Gwelliannau Tai
Coed Pella
Conway Road
Bae Colwyn
LL29 7AZ
Ffôn: 01492 575102 neu 01492 577337
E-bost: hsg.financial.assistance@conwy.gov.uk

System Uwchraddedig ar gyfer Addasu Cartrefi (PDF, 283Kb)

Man Parcio i Bobl Anabl

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content