Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Tai Strategaeth Tai Lleol Strategaeth Tai Lleol 2024-2029

Strategaeth Tai Lleol 2024-2029


Summary (optional)
start content

Gweledigaeth Strategaeth Tai Lleol Conwy 2018 yw i ‘Bobl yng Nghonwy gael mynediad at lety fforddiadwy, priodol ac o safon dda sy’n gwella ansawdd eu bywydau’.

Mae llawer wedi’i gyflawni ers i ni gyhoeddi ein strategaeth yn 2018. Er enghraifft, rydym wedi cyflawni 523 o unedau tai fforddiadwy trwy raglen y Grant Tai Cymdeithasol, dod â 162 eiddo gwag yn ôl i ddefnydd a datblygu cynllun ailgartrefu cyflym Conwy.

Mae wedi bod yn amgylchedd heriol o ganlyniad i bandemig y Coronafeirws, newidiadau mewn deddfwriaeth a chynnydd mewn costau byw. Mae adroddiad Prif Gyflawniadau’r Strategaeth Dai Leol 2023 yn nodi sut yr aethom i’r afael â’r heriau yr oeddem yn eu hwynebu a’r hyn yr ydym wedi’i gyflawni yn erbyn y targedau a gynlluniwyd. Dim ond trwy weithio mewn partneriaeth effeithiol ar draws y sectorau cyhoeddus a thai preifat y llwyddwyd i ddarparu datrysiadau.

Adroddiad Prif Gyflawniadau’r Strategaeth Dai Leol 2023 (PDF)

Mae’r Strategaeth Tai Lleol wedi’i datblygu gan Bartneriaeth Tai Strategol Conwy a’r Bartneriaeth sy’n berchen arni. Rydym am barhau i wneud y defnydd gorau o'n sgiliau a’n hadnoddau; i sicrhau bod ein hamcanion busnes yn cyd-fynd; ac yn y pendraw, i wneud y gorau y gallwn ni i wella'r dewisiadau tai yn Sir Conwy yn 2024 - 2029.

I gysylltu â’r Tîm Strategaeth Tai, neu am fwy o wybodaeth gallwch ffonio 01492 576274 neu anfon e-bost at – strategaethtai@conwy.gov.uk

end content