Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Ardaloedd Bioamrywiaeth yng Nghonwy


Summary (optional)
start content

Beth yw bioamrywiaeth?


Bioamrywiaeth yw'r amrywiaeth o blanhigion a bywyd gwyllt o'n hamgylch.  Mae gwaith sylweddol wrthi'n cael ei wneud ym mharciau a mannau gwyrdd Conwy i ddiogelu, rheoli, cynyddu a gwella bioamrywiaeth trwy brosiectau lleol ac arferion rheoli da.  Yn aml mewn prosiectau bydd ysgolion, wardeniaid cefn gwlad, preswylwyr, grwpiau cymunedol a grwpiau cyfeillion yn gweithio gyda'i gilydd i hyrwyddo bioamrywiaeth trwy gamau gweithredu ymarferol ac addysg amgylcheddol.

Darganfod mwy am Leoedd Lleol ar gyfer Natur.

Beth yw Ardaloedd Bioamrywiaeth?


Ardaloedd Bioamrywiaeth yw'r parciau a'r mannau gwyrdd sy'n cael eu rheoli er lles bywyd gwyllt.  Mae dros 75 o'r rhain yng Nghonwy sy'n cael eu rheoli gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy gyda chefnogaeth y Cynghorau Tref a Chymuned.  Cadwch olwg am bostiau pren gyda symbol blodyn pengaled pinc yn yr ardaloedd hyn.

Mae'r ardaloedd glaswelltir yn cael eu rheoli fel 'dôl', gan adael i'r glaswellt dyfu'n hir yn y gwanwyn a'r haf.  Yna, byddwn yn ei dorri ar ôl i'r blodau hau hadau ar ddiwedd yr haf.

Pam fod dolydd mor dda ar gyfer bywyd gwyllt?


Mae glaswelltir sy'n cael ei adael i dyfu'n hir yn yr haf yn llawer gwell ar gyfer bywyd gwyllt na glaswellt byr, oherwydd:

  • Bydd gan flodau gwyllt gyfle i dyfu a blodeuo yn ystod yr haf.
  • Bydd y blodau'n denu pryfed fel gwenyn a gloÿnnod byw i'w peillio.
  • Ar ôl eu peillio, gall y planhigion hau hadau a dychwelyd y flwyddyn ganlynol.
  • Yn raddol, dros amser, bydd rhagor o flodau dolydd ar y glaswelltir.
  • Bydd gloÿnnod byw yn dodwy wyau mewn dolydd a lindys yn bwydo ar y gwair hir.
  • Mae gan adar sy'n bwyta hadau, fel yr eurbinc, ddigon o fwyd mewn dolydd.
  • Bydd mamaliaid bychain fel llygod dŵr a llygod y maes yn adeiladu cartrefi mewn dolydd, sy'n denu anifeiliaid eraill i'w bwyta, fel y dylluan wen a'r cudyll coch.


Arferion a chynlluniau eraill sy'n helpu i ddiogelu a gwella bioamrywiaeth yn ein parciau a mannau gwyrdd

  • Cynnal digwyddiadau a gweithgareddau sy'n gwella ymwybyddiaeth o fioamrywiaeth.
  • Lleihau'r defnydd o nwyddau niweidiol fel chwynladdwyr.
  • Ailgylchu gwastraff gwyrdd.
  • Peidio â defnyddio mawn wrth gynhyrchu planhigion ar gyfer gwelyau blodau.
  • Rheoli coetiroedd yn gynaliadwy.
  • Creu a rheoli cynefinoedd - plannu mewn coetiroedd, plannu gwrychoedd, creu pyllau ac adfywio.
  • Sefydlu meithrinfa goed, tyfu rhywogaethau brodorol o hadau.

 

Taflen Ardaloedd Bioamrywiaeth yng Nghonwy (PDF)

end content