Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Datganiad Mynediad


Summary (optional)
start content

Gyda Char/Tacsi

Mae digon o lefydd parcio tu allan i'r Ganolfan Ymwelwyr gyda naw lle parcio i bobl anabl er mwyn mwynhau'r olygfa o Ben y Gwylfryn, a phedwar lle parcio i bobl anabl er mwyn rhoi mynediad i brif fynedfa'r Ganolfan Ymwelwyr, tua 22 metr i ffwrdd. Ceir mynediad at y fynedfa drwy gât un metr o led ac ar hyd llwybr palmant un metr o led.

Gyda Thram

Mae Gorsaf Dramiau Pen y Gwylfryn yn gyfagos i fynedfa arall y Ganolfan Ymwelwyr. Mae ramp 1.7 metr o led y rhoi mynediad at y fynedfa hon. 

Gyda Bws

Mae gwasanaeth bws bob awr o Landudno, sy'n stopio ym maes parcio Pen y Gwylfryn mewn gofod penodol tua 22 metr o brif fynedfa'r Ganolfan Ymwelwyr. Byddwch yn defnyddio'r un fynedfa i'r Ganolfan Ymwelwyr â defnyddwyr ceir/tacsis.

Car Cebl

Mae gorsaf Car Cebl Pen y Gwylfryn tua 130 metr o'r Ganolfan Ymwelwyr. Mae llwybr tarmac tua 3.3 metr o led yn arwain o orsaf Car Cebl Pen y Gwylfryn i brif fynedfa'r Ganolfan Ymwelwyr.

Cyrraedd Y Ganolfan Ymwelwyr

Mae llwybr balmant yn mynd ar hyd y prif adeilad gyda ramp balmant yn arwain at y Ganolfan Ymwelwyr o ben yr Orsaf Dramiau. Mae drysau'r fynedfa ar y pen hwn yn rhai modur a gellir eu hagor gan ddefnyddio pad gwthio 90cm uwchlaw'r ddaear, wedi'i ddylunio ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn. Mae rampiau yn ogystal â stepiau rhwng gwahanol lefelau'r Ganolfan Ymwelwyr.

Y Ganolfan Ymwelwyr

Mae'r llwybrau o amgylch y Ganolfan Ymwelwyr yn o leiaf 1.4 metr o led. Mae Siop yr Ymddiriedolaeth Natur 10 metr i ffwrdd o Fynedfa'r Tram ac mae ganddo gownter un metr o uchder a lled y fynedfa yw 89cm. Mae'r Ganolfan Ymwelwyr yn cynnwys arddangosiadau rhyngweithiol a rhai paneli lefel isel, ond mae'r holl ddeunydd dehongli ar fyrddau gwybodaeth sy'n hawdd i'w gweld. Mae hefyd ystafell glyweled gyda chyfleuster dolenni clyw ac mae mynediad am ddim i'r Ganolfan Ymwelwyr.

Toiledau

Mae'r toiledau wedi'u lleoli wrth ymyl prif fynedfa'r Ganolfan Ymwelwyr ac maent yn cynnwys toiledau dynion a merched safonol mewn ciwbiclau, ystafell newid babanod a thoiled anabl unrhyw ryw ac mae angen goriad RADAR i'w ddefnyddio. Mae drws 85cm o led i'r toiled anabl, a mesuriadau'r toiled yw 2.2 x 2.2 metr.  Mae'r toiled anabl yn cynnwys rheiliau ar y wal gyfagos i'r toiled, dan y sinc a nesaf at y sychwr dwylo. Mae hefyd yn cynnwys golau panig all gael ei weithredu drwy ddefnyddio cortyn tynnu nesaf at y toiled. Mae'r sinc yn cynnwys tapiau gyda liferi.

Crynodeb

Mae rhywfaint o waith uwchraddio wedi digwydd i'r Ganolfan Ymwelwyr dros y blynyddoedd diwethaf er mwyn darparu mynediad haws pan fod hynny'n bosibl. Mae'r paneli gwybodaeth yn y ganolfan yn cynnwys paragraffau byr gyda thestun clir ond mae rhywfaint o wybodaeth fanwl sy'n defnyddio teip llai o faint.

Mae staff y Ganolfan Ymwelwyr bob amser yn barod i roi gwybodaeth ar unrhyw agwedd o'r safle os nad yw'r datganiad hwn yn ateb cwestiynau penodol.

Cysylltwch â Ni

Y Cod Cefn Gwlad

end content