Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Coed Shed


Summary (optional)
start content

Cyfeirnod Grid: SJ 011640

Mae'r coetir deilgoll hynafol hwn yn gorchuddio ochrau serth cwm un o lednentydd Afon Ystrad.

Bydd taith gerdded gron fer o bentref cyfagos Y Groes yn eich galluogi i brofi prydferthwch ac unigedd y coetir. Mae mynediad drwy'r goedwig yn mynd ar hyd llwybr ceffylau sy'n rhedeg ar hyd gwaelod y cwm, gan ddilyn cwrs nant. Mae cyfoeth o fywyd gwyllt yn y coetir, sydd yn arbennig o ddeniadol yn ystod y gwanwyn, pan fydd blodau'r gwanwyn yn creu sbloet o liwiau.

Cyhoeddiadau Cefn Gwlad

Y Cod Cefn Gwlad

end content