Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Teithiau Gwarchodfa Natur Leol Bryn Euryn


Summary (optional)
start content

Ynys o goetir a glaswelltir mewn môr o dai ger Llandrillo yn Rhos. Mae’r warchodfa hon yn boblogaidd gyda cherddwyr cŵn ac yn lle da i fynd am dro fer a chyflym ar droed. Mae rhan o Fryn Euryn yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, gan ei fod wedi’i wneud o Galchfaen. Gyda golygfeydd panoramig godidog ac olion tŷ o’r 15fed Ganrif, sef Llys Euryn, mae’n bendant werth mynd yno.

Pa fath o daith gerdded yw hon?

  • Tir: Llwybrau a thraciau mewn coetir a glaswelltir
  • Pellter: Amrywiaeth o deithiau cerdded byr drwy ac o gwmpas y goedwig ac i ben y Bryn
  • Cŵn: Dylai cŵn gael eu cadw o dan reolaeth bob amser
  • Lluniaeth: Ar gael yn lleol yn Llandrillo yn Rhos
  • Graddfa’r daith gerdded: hawdd / cymedrol
  • Map: Os hoffech chi brynu map sy’n dangos y llwybr hwn, y mapiau y byddwch eu hangen yw’r Explorer OL17. Gallwch fynd draw i wefan Arolwg Ordnans i gael rhagor o wybodaeth neu i brynu eich map, neu mae’r mapiau hyn ar gael i’w prynu mewn nifer o siopau ar y stryd fawr. Gallwch lawrlwytho cerdyn y llwybr ar gyfer y daith hon isod, ond rydyn ni wastad yn argymell mynd â map OS yn ychwanegol at unrhyw daflen

Sut i gyrraedd?

  • Gyda thrên: Rhif Ffôn: 0845 7484950. www.nationalrail.co.uk
  • Gyda bws: Rhif Ffôn: Traveline Cymru 0871 200 22 33. www.travelinecymru.info
  • Gyda char: Dilynwch yr A55 i gyffordd 20, cymrwch y B5115 i Landrillo yn Rhos, trowch i’r chwith ar Rhos Road ac yna dilynwch yr arwyddion brown ar gyfer Bryn Euryn

Paratowch!

Mapiau

end content