Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Gwarchodfeydd Natur Arfordirol


Summary (optional)
start content

Mwynhewch daith ar hyd yr arfordir at Glan y Môr Elias a Morfa Madryn,
Llanfairfechan. 

Cafodd Gwarchodfa Morfa Madryn ei greu fel ardal heb aflonyddu arni fel bod adar yn gallu bwydo, gorffwys a bridio yno. Mae'r daflen hon hefyd yn cynnwys gwybodaeth am warchodfeydd natur arfordirol eraill nad ydynt yn cael eu
rheoli gan Wasanaeth Cefn Gwlad Conwy. 

Sut Fath o Daith yw Hi?

  • Math o Dir: Hawdd i'w gerdded, llwybr troed arfordirol gwastad.
  • Pellter: Tua 1km. Llwybrau: Llwybr troed arfordirol gwastad.
  • Cŵn: Dylid cadw cŵn ar dennyn.
  • Map: Explorer OL17.
  • Lluniaeth: I'w cael mewn caffi a'r tafarnau.

Cymerwch Ofal!

  • Cadwch ar yr ochr dde mewn llinell sengl pan yn cerdded ar hyd ffyrdd.
  • Mae esgidiau addas yn hanfodol ar gyfer cerdded drwy gydol y flwyddyn.

Sut ydw i'n Mynd Yno?

Gweler isod am gopi PDF o lwybr y daith gerdded / taflen. Mae nifer o gyhoeddiadau ar gael i'w prynu. Ewch i'n tudalen Cyhoeddiadau Cefn Gwlad am fwy o wybodaeth.

Y Côd Cefn Gwlad

end content