Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Taith Uwchdir Pensychnant


Summary (optional)
start content

Sut fath o daith yw hi?

Taith gylchol o ben Pas Sychnant gan fynd â chi dros dir mynediad agored i weld golygfeydd gwych o Ddyffryn Conwy, y Carneddau, penrhyn y Gogarth a'r arfordir.  

Cerddwch drwy dirwedd sy'n cynnwys cyfoeth o nodweddion archeolegol o gylchoedd cerrig i hafotai canoloesol.

  • Tirwedd: cerdded fyny bryn gydag ychydig o lethrau canolig i serth.
  • Pellter: 7.2 cilomedr, 4 ½ milltir, Amser: 3 ½ awr.
  • Llwybrau: llwybrau gwellt a cherrig geirwonsy'n dilyn hawliau tramwy cyhoeddus. 1 giât ac 1 gamfa.
  • Cwn: ar dir mynediad mae'n rhaid ichi gadw'ch ci ar dennyn byr rhwng 1 Mawrth a 31 Gorffennaf a phob tro byddwch yn agos i dda byw. Mae'n rhaid cadw cwn dan reolaeth tyn.
  • Cyfeirnod grid dechrau a gorffen: SH 755 769, Maes Parcio Parc Cenedlaethol, Map: Explorer OL17.
  • Lluniaeth: ar gael yn Dwygyfylchi, Penmaenmawr a Conwy.
  • Bras amcan yn unig yw'r amseroedd a pellteroedd

Paratowch ar gyfer eich taith

  • Gwisgwch esgidiau cryfion
  • Dillad diddos cynnes ac ewch a bwyd efo chi.

Gweler isod am gopi PDF o lwybr y daith gerdded / taflen.

Y Côd Cefn Gwlad

Mapiau:

 

end content