Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Teithiau Llanfairfechan


Summary (optional)
start content

Gwarchodfa Natur Leol Nant y Coed – nid oes mynediad drwodd rhwng mynedfa Newry Drive a maes parcio’r Tair Nant (Cyfeirnod Grid: SH69806 73586) na drwy ben uchaf Valley Road. Mae’r cerrig camu yn rhan uchaf y warchodfa wedi cau gan fod nifer o’r cerrig ar goll. 

Llwybr amgen: Yn y gyffordd â Newry Drive, trowch i’r dde i barhau ar Valley Road a chroeswch y bont gyda logo’r Parc Cenedlaethol. Dilynwch y ffordd o amgylch i’r chwith ac i fyny’r bryn i gyrraedd maes parcio'r Three Streams.



Sut Fath o Daith yw Hi?

Llwybr 1

Glan y Môr Elias, Traeth Lafan, Math o Dir: Llwybr gwastad yr arfordir, Pellter: Tua 5.4 cilometr/ 3.3 milltir, Amser: Oddeutu 1 awr, Llwybrau: Palmentydd, promenade tarmac, llwybrau glaswellt. Yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn. Bydd angen goriad radar arnoch.

Llwybr 2

  • Tyddyn Drycin, Math o Dir: Ffyrdd trefol, rhai dringfeydd a disgynfeydd cymhedrol.
  • Pellter: Tua 4 cilometr/ 2.5 milltir.
  • Amser: Oddeutu 1 awr.
  • Llwybrau: Ffyrdd B a palmantydd, coetir a llwybrau glaswellt.

Llwybr 3

  • O Amgylch y Pentref, Math o Dir: trefol, rhannol drefol a Gwarchodfa Natur Leol.
  • G Esgyniad a disgyniad graddol.
  • Pellter: Tua 3.6 cilometr/ 2.2 milltir.
  • Amser: Oddeutu 1 awr.
  • Llwybrau: palmentydd, lonydd ag wyneb

Llwybr 4

  • Garreg Fawr, Math o Dir: Ffyrdd trefol, rhai dringfeydd i 364m/1194'
  • Pellter: Tua 5 cilometr/ 3.1 milltir.
  • Amser: Oddeutu 2 awr.
  • Llwybrau: Ffyrdd B a llwybrau glaswellt 


Cŵn: Dylid cadw cŵn ar dennyn.

Cyfeirnod grid Dechrau a Gorffen:  

  • Mae pob taith yn dechrau o groesffordd y pentref, Map: Explorer OL17.
  • Lluniaeth: I'w cael yn siopau lleol a'r tafarnau.


Cymerwch Ofal!

  • Cadwch ar yr ochr dde mewn llinell sengl pan yn cerdded ar hyd ffyrdd.
  • Mae esgidiau addas yn hanfodol ar gyfer cerdded drwy gydol y flwyddyn.


Sut ydw i'n Mynd Yno?

  • Efo trên: Mae yna arhosfan yn Llanfairfechan. Ffôn: 0845 7484950  Gwefan: www.nationalrail.co.uk
  • Efo bws: Ffôn: Traveline Cymru 0871 200 22 33  www.travelinecymru.info
  • Efo car: Dilynwch yr A55 i gyffordd 14 neu 15 i Lanfairfechan. Dilynwch y brif ffordd I'r groesffordd a'r goleuadau traffig. Trowch i lawr Station Road ac i faes parcio ar yr ochr dde.

 

Cofiwch ddilyn

Y Côd Cefn Gwlad


Mapiau:

 

end content