Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Technoleg i'ch helpu chi


Summary (optional)
start content

Meddalwedd Boardmaker

Mae Boardmaker yn feddalwedd cyfrifiadurol sy’n cynnwys miloedd o symbolau cyfathrebu lluniau y gellir eu defnyddio gydag unrhyw un a allai fod angen cefnogaeth ychwanegol gyda chyfathrebu, gan gynnwys:

  • Plant ac oedolion gydag Anhwylderau ar y Sbectrwm Awtistig, anawsterau dysgu a/neu anableddau corfforol
  • Unrhyw un gyda Nam Ieithyddol Penodol
  • Pobl sydd â Saesneg fel Iaith Ychwanegol
  • Unrhyw un sydd ag anabledd neu nam sy'n effeithio ar gyfathrebu neu gof
  • Pobl hŷn gyda rhai mathau o ddementia neu unrhyw un sydd wedi colli rhywfaint o sgiliau iaith ar ôl strôc

Mae Boardmaker ar gael i'w ddefnyddio, yn rhad ac am ddim, yn Llyfrgelloedd Abergele, Bae Colwyn, Conwy, Llandudno a Llanrwst.

Gallwch archebu sesiwn gydag aelod o staff i ddysgu sut i ddefnyddio Boardmaker, yna ei ddefnyddio pryd bynnag y byddwch angen i argraffu eich symbolau.

Cysylltwch â'r llyfrgell i gael rhagor o wybodaeth, neu i gadw lle ar gyfrifiadur cyn eich ymweliad.

Technoleg Gynorthwyol

I wneud ein cyfrifiaduron yn haws i'w defnyddio, mae gennym ystod o feddalwedd a chaledwedd ar gael, gan gynnwys, monitoriaid sgrin mawr a desgiau y gellir addasu eu huchder, llygod pelen lwybro, a Bysellfyrddau Botymau Mawr sydd yn haws eu gweld.

Mae cyfrifiaduron gyda thechnoleg gynorthwyol ar gael yn:

Llyfrgell Abergele, Bae Colwyn, Conwy, Bae Cinmel, Llandudno, Llanrwst, a Phenmaenmawr.

end content