Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Llyfrgelloedd, Archifau a Diwylliant Llyfrgelloedd Sut i fynd ar-lein Wi-Fi, cyfrifiaduron ac argraffu mewn llyfrgelloedd

Wi-Fi, cyfrifiaduron ac argraffu mewn llyfrgelloedd


Summary (optional)
start content

Defnyddio Wi-Fi mewn llyfrgelloedd

Mae ein llyfrgelloedd yn cynnig Wi-Fi digyfyngiad am ddim. Dewch o hyd i’ch llyfrgell leol.

Er mwyn defnyddio’r Wi-Fi, bydd angen i chi:

  • Gysylltu â’r rhwydwaith di-wifr o’r enw AmDdim_Conwy_Free
  • Dylech weld tudalen groeso gyda’r dewis i fewngofnodi â Facebook neu Gofrestru
  • Unwaith yn unig y bydd angen i chi gofrestru, drwy roi cyfeiriad e-bost
  • Os na ddaw'r dudalen groeso i'r golwg yn awtomatig, agorwch borwr we (fel Safari, Firefox, Chrome, Opera neu Internet Explorer) ac ewch i unrhyw dudalen we

Defnyddio cyfrifiaduron mewn llyfrgelloedd

Mae cyfrifiaduron Windows ar gael i'w defnyddio am ddim ar gyfer pori'r we a defnyddio meddalwedd fel Microsoft Office. Gallwch hefyd ddefnyddio meddalwedd gynorthwyol fel Boardmaker ar nifer gyfyngedig o gyfrifiaduron.

Mae angen bod yn aelod o'r llyfrgell er mwyn defnyddio cyfrifiaduron y llyfrgell.

Mae gan y rhan fwyaf o lyfrgelloedd gyfrifiaduron sydd ar gael heb archebu, ond mae modd cadw cyfrifiadur ymlaen llaw drwy gysylltu â’r llyfrgell.

Argraffu, llungopïo, sganio

Gallwch argraffu a sganio gan ddefnyddio cyfrifiaduron y llyfrgell. Mae gwasanaethau llungopïo ar gael yn ein llyfrgelloedd mwy.

Gallwch argraffu o’r rhyngrwyd neu ddod â chof bach gyda ffeiliau arno i’w roi yn un o gyfrifiaduron y llyfrgell, neu lungopïwr.

Ffioedd argraffu a llungopïo.

Hidlo ar gyfrifiaduron a Wi-Fi cyhoeddus

Mae rhywfaint o hidlo ar gyfrifiaduron a Wi-Fi’r llyfrgell. Yn unol â’n Polisi Defnydd Derbyniol, nid ydym ond yn rhwystro mynediad at wefannau neu dudalennau gwe os ydynt yn:  

  • cyhoeddi deunydd anghyfreithlon
  • cyhoeddi deunydd o natur hiliol neu homoffobig
  • cyhoeddi deunydd rydym yn ei gyfrif yn bornograffig neu’n or-dreisgar

Rydym yn cadw’r hawl i rwystro unrhyw wefan y dymunwn ei rhwystro.

Mae ein cysylltiad we yn cael ei hidlo’n allanol; er hynny, gallwn ofyn i wefan neu dudalen gael ei dadflocio pan fyddwch yn ceisio mynd ati ar un o gyfrifiaduron y llyfrgell.

Os ydych yn credu ein bod yn rhwystro gwefan na ddylem ei rhwystro, cysylltwch â ni ar llyfrgell@conwy.gov.uk.

end content