Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Fy Nghonwy Cwestiynau Cyffredin

Cwestiynau Cyffredin


Summary (optional)
start content
Sut ydw i'n cofrestru a chreu cyfrif?

1) Ewch i dudalen Hafan Cyfrif Fy Nghonwy.

3) Dilynwch y ddolen 'Cofrestru'.

4) Nodwch y cyfeiriad e-bost rydych chi eisiau ei ddefnyddio. Dyma fydd eich enw defnyddiwr.

5) Crëwch gyfrinair; mae'n rhaid iddo fodloni’r rheolau cyfrinair.

6) Yna, defnyddiwch y botwm 'Cyflwyno' i greu’r cyfrif.

7) Anfonir e-bost atoch yn gofyn i chi ddilysu eich cyfrif.

8) Mewngofnodwch gan ddefnyddio'r ddolen a ddarperir ar gyfer gweithredu eich cyfrif.

Sut ydw i'n creu fy mhroffil?

Unwaith y byddwch wedi mewngofnodi i'ch cyfrif, gofynnir i chi greu proffil.

Bydd hyn yn cynnwys eich enw, cyfeiriad, cod post a manylion cyswllt.

Ar ôl ychwanegu'r wybodaeth hon, cliciwch "cyflwyno" ar gyfer creu eich proffil.

Defnyddir y wybodaeth hon i rannu gwybodaeth â chi am eich diwrnodau casglu biniau ac ar gyfer llenwi ffurflenni neu geisiadau'n awtomatig ar eich cyfer pan fyddwch wedi mewngofnodi i'ch cyfrif.

Beth ddylwn i ei wneud os byddaf wedi anghofio fy nghyfrinair?

1) Ewch i dudalen Cyfrif Fy Nghonwy.

2) Cliciwch ar y ddolen "Anghofio Cyfrinair" o dan y meysydd mewngofnodi.

3) Nodwch y cyfeiriad e-bost sydd wedi'i gofrestru ar gyfer eich cyfrif a chlicio "cyflwyno".

4) Yna, byddwch yn derbyn e-bost gyda dolen ar gyfer ailosod cyfrinair.

5) Dilynwch y ddolen a nodwch gyfrinair newydd, cadarnhewch y cyfrinair a chlicio "cyflwyno".

6) Byddwch yn cael eich mewngofnodi'n awtomatig i'ch cyfrif.

Sut allaf weld ceisiadau yr wyf wedi'u cyflwyno?

Wrth i chi fewngofnodi i'ch cyfrif, fe welwch banel bach gyda rhestr o'ch ceisiadau diweddaraf.

Gallwch hefyd weld hanes llawn eich ceisiadau trwy glicio ar y ddolen "My Requests" ar frig y dudalen.

Sut allaf ddiweddaru fy nghyfrif?

Gallwch ddiweddaru eich enw, eich cyfeiriad a'ch manylion cyswllt ar unrhyw adeg. I wneud hyn, mewngofnodwch i'ch cyfrif a chliciwch ar y botwm "Edit Profile" o dan eich manylion.

Gallwch hefyd ddiweddaru'r cyfeiriad e-bost sydd gennych yn gysylltiedig â'r cyfrif. I wneud hyn, mewngofnodwch i'ch cyfrif a chliciwch ar y botwm "Change E-mail" o dan eich manylion.

I newid eich cyfrinair, mewngofnodwch i'ch cyfrif a chliciwch ar y botwm "Change Password".

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content