Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Cyffordd Llandudno i Lan Conwy: Llwybr teithio llesol


Summary (optional)
Cynigion ar gyfer gwell llwybr cerdded, beicio ac olwynion rhwng Glan Conwy a Chyffordd Llandudno.
start content

Beth yw’r problemau?

Nid oes unrhyw lwybr teithio llesol rhwng Glan Conwy a Chyffordd Llandudno ar hyn o bryd.  Nid yw’r llwybrau presennol yn addas nac yn hawdd i bawb eu defnyddio.

Ynglŷn â'r prosiect

Diben y prosiect yw creu llwybr teithio llesol rhwng Glan Conwy a mynedfa gwarchodfa’r RSPB yng nghyffordd 18 yr A55.  Bydd hwn yn cysylltu â’r cynllun teithio llesol newydd y mae Llywodraeth Cymru’n ei greu yng Nghyffordd 18 a hefyd yn cysylltu â’r bont i’r Cob er mwyn teithio ymlaen i Gonwy.

Yn dilyn gwerthusiad o’r dewisiadau ac ymgynghoriad cyhoeddus, dewiswyd Dewis 4 fel y llwybr a ffefrir.

Darllenwch am yr ymgynghoriad cyhoeddus.

Mae’r llwybr hwn yn cynnwys:

  • Pont newydd yn croesi llinell Rheilffordd Dyffryn Conwy o’r gilfan ar yr A470
  • Mynediad ramp o’r bont i lwybr rhwng y rheilffordd ac Afon Ganol
  • Pont newydd yn croesi Afon Ganol
  • Llwybr a rennir i deithio ar droed, ar feic ac ar olwynion o amgylch perimedr gwarchodfa’r RSPB i’r Ganolfan Ymwelwyr
  • Llwybr a rennir i Gyffordd 18 yr A55
  • Gwell llwybr i’r bont ar Gob Conwy

Ers cadarnhau’r cyllid, rydym wedi bod yn gweithio ar ddylunio dwy bont newydd at safonau modern a chytuno ar gyfliniad y llwybr a ffefrir gyda’r budd-ddeiliaid allweddol.  Bydd y pontydd a’r llwybr a rennir ar gael i bawb eu defnyddio ac yn addas ac yn ddigon llydan i gerddwyr, beicwyr a defnyddwyr cadair olwyn, pramiau a sgwteri symudedd.

Delweddau

 

Pwy sy’n cyllido hyn?

Ariannwyd camau cynnar y gwaith dylunio hwn gan Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru. Mae’r Cyngor wedi bod yn llwyddiannus yn ei gais am arian o’r Gronfa Ffyniant Bro i greu’r llwybr teithio llesol hwn.

 ukgovlevellingup_cy

Llwybr ymlaen

Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar y llwybr ymlaen o’r gilfan i ganol pentref Glan Conwy.

Rydym hefyd wedi dechrau edrych ar ddewisiadau strategol ar gyfer y llwybr teithio llesol Môr i’r Mynydd o Gyffordd Llandudno i Fetws-y-coed, sy’n brosiect tymor hwy.

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content